St Florence

Mae St Florence yn bentref hudolus ac yn un o gyn-enillwyr gwobr enwog Wales in Bloom. Mae’r lle’n llawn o fythynnod tlws, gan gynnwys un sydd â hen simdde Ffleminaidd, yr olaf o’i fath yn yr ardal, yn ogystal ag eglwys ddiddorol o’r 13eg Ganrif.

Dinbych-y-pysgod yw’r orsaf rheilffordd agosaf. Mae gwasanaeth bws yn cysylltu St Florence gyda Chaeriw a Dinbych-y-pysgod tua 6 – 7 gwaith y dydd.

Wedi i’r Normaniaid feddiannu de Sir Benfro yn y 12fed ganrif, daeth y brenin ag ymsefydlwyr o Fflandrys yno wedi iddynt golli eu tiroedd i’r môr. Y bwriad oedd iddynt weithredu fel byffer rhwng y Normaniaid yn ne Sir Benfro a’r Cymry yn y gogledd. Mae olion y Ffleminiaid wedi goroesi yn St Florence ar ffurf simdde Ffleminaidd ar un o’r hen dai. Mae’n debyg y byddai’r boblogaeth wedi bod yn gymysgedd o Normaniaid, Gwyddelod, Scandinafiaid a Ffleminiaid, ynghyd ag Eingl-sacsonaidd a rhai o gefndir Cymreig.

Arferai Ieirll Penfro gadw ceirw mewn parc yma, lle mae fferm Wall Park heddiw.

Gweithgareddau

Mae Ritec Valley Quadbikes gerllaw, yn ogystal â Chwrs Golff Trefloyne Manor

Atyniadau

Mae pentref St Florence rhyw dair milltir i mewn i’r tir o Ddinbych-y-pysgod, ar y ffordd tuag at Gastell Caeriw. Ar gyrion y pentref mae tri o atyniadau mwyaf Sir Benfro: Parc Bywyd Gwyllt Manor House, Parc Gweithgareddau Heatherton, a Pharc Dinosoriaid Dinbych-y-pysgod.

Mae digonedd o weithgareddau ym Mharc Gweithgareddau Heatherton, gan gynnwys saethu bwa a saeth, pêl fas, ceirt modur, golff Pitch & Putt, marchogaeth, saethu colomennod clai â laser, paintball, cwrs golff Pirates of the Caribbean, saethu pistolau, Robot Wars, bowlio dan do, maes chwarae, a drysfa india corn yn yr haf.

Parc thema dinosoriaid yw’r Parc Dinosoriaid, gyda 30 o ddinosoriaid ar lwybr sy’n filltir o hyd. Mae digon o atyniadau awyr agored yn ogystal â rhai dan do, gan gynnwys canolfan weithgareddau gyda rhaglen o ddigwyddiadau megis helfa ffosilau, sioe bypedau, mwytho anifeiliaid ayb. Mae maes chwarae antur gyda golff, trampolinau, sleid astra, reid swigod, cychod disco, tractorau ayb yn ogystal â den chwarae i blant iau. Mae bwyty thema dinosoriaid, caffi ar deras haul, a bar byrbrydau yma hefyd.

Ym Mharc Bywyd Gwyllt Manor House cewch grwydro trwy 35 erw o barcdiroedd, ac mae digonedd i’w weld, gan gynnwys ceirw Llychlyn, tapiriaid, bison, sebraod, camelod, mwncïod a racwniaid. Mae ardal chwarae i blant hefyd. Cafodd y safle ei brynu gan Anna Ryder Richardson, cyflwynydd rhaglen deledu Changing Rooms, yn 2008 a gweithiodd hi a’i thîm yn ddiwyd i droi’r atyniad yn un di-gawell gydag ardaloedd y gallwch gerdded drwyddynt.

Mae canolfan arddio Grandiflora yn y pentref. Dyma’r unig ganolfan arbenigol yng Nghymru ar gyfer planhigion lled-aeddfed, ac mae ganddynt filoedd o goed a llwyni cynhenid, yn ogystal â phlanhigion bambŵ, Môr y Canoldir, arfordirol, jwngl ac anarferol. Mae Bradley’s Tea Rooms yma hefyd.

Gerllaw, mae Castell Caeriw a Tide Mill. Adeiladwyd y castell gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif ar safle caer Geltaidd, a chafodd ei drawsnewid yn blasty yn y cyfnod Edwardaidd. Mae rhagor o wybodaeth i’w gael ar dudalen Caeriw.

Bwyd a Diod

Mae’r Parsonage Farm Inn yn St Florence yn adeilad Sioraidd rhestredig gradd II, a hyd at y 1930au cynnar yma oedd clastir yr hen gymuned Normanaidd lle’r arferai’r rheithor St Florence ffermio. Mae gan y dafarn erddi braf ac mae’n gweini bwyd gyda’r hwyr trwy’r gaeaf, a chinio hefyd yn yr haf.

Yng nghanol y pentref, mae’r Sun Inn yn cynnig bwydlen dda o’r hen ffefrynnau, gan gynnwys prydau llysieuol a phrydau plant. Gallwch ddewis eu bwyta yno neu fynd â nhw gyda chi.

Mae Bramley’s Tea Rooms, yng nghanolfan arddio Grandiflora, wedi ennill gwobrau, ac yn arbenigo mewn coginio cartref gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Maent yn cynnig coffi boreol, prydau ysgafn, cinio, a the’r prynhawn bob dydd. Ar ddyddiau Sul maent yn cynnig cinio dydd Sul tri chwrs traddodiadol.

Mae gan y St Florence Stores ddigonedd o gynnyrch da, a gallant eu danfon i’ch llety os ydych am archebu bwyd cyn i chi gyrraedd yno.

Llety

Mae un gwesty bychan, gwesty gwledig, tŷ llety, a llety gwely a brecwast yn St Florence. Mae lleoedd gwely a brecwast i’w cael yn y pentrefi cyfagos, fel Lydstep hefyd.

Ceir sawl maes gwersylla a charafanau yn y cyffiniau, yn ogystal â pharciau gwyliau gerllaw. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo i’w cael yn y rhan hon o dde Sir Benfro, gan gynnwys yn St Florence.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi