Penrhyn Castell Martin

Mae Penrhyn Castell Martin i’r de-orllewin o dref Penfro ac yn cynnwys cymunedau anghysbell fel Merrion, Rhoscrowdder ac Angle.

Gwasanaeth 387/388 Gwibfws yr Arfordir sy’n gwasanaethu’r penrhyn hwn, gan gysylltu’r holl bentrefi â Phenfro a Doc Penfro, lle mae gorsaf rheilffordd hefyd. Perffaith ar gyfer unrhyw un sy’n cerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro.

Mae gan benrhyn Castell Martin hanes milwrol hir. Tua diwedd y 1930au cymerwyd rhan fawr o benrhyn Castell Martin drosodd ar gyfer maes tanciau’r Corfflu Arfog Brenhinol (RAC) ac fe’i datblygwyd ymhellach yn ystod cyfnod y Rhyfel Oer. Erbyn hyn, Castell Martin yw’r unig faes tanio sydd ar gael i unedau arfog Byddin y DU gynnal ymarferion tanio byw uniongyrchol.

Gosodwyd tyrrau tanio gynnau yn Ffald Castell Martin, yng nghanol y pentref, yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ar domen y castell canoloesol yn Castle Farm (sy’n eiddo preifat) mae olion gorsaf Corfflu’r Gwylwyr Brenhinol o’r Ail Ryfel Byd.

Gweithgareddau

Mae’r Ganolfan Astudiaethau Maes yn Orielton yn blasty Sioraidd hardd mewn 48 hectar o dir, sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant proffesiynol a hamdden ar bron pob agwedd o gefn gwlad, ei fywyd gwyllt a’r amgylchedd.

Mae’r tonnau’n denu llawer i draeth Freshwater West ond dim ond y syrffwyr profiadol ddylai fentro yma gan bod ceryntau terfol cryf; ac wrth gwrs, mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd heibio’r traeth gwyllt a hardd hwn.

Atyniadau

Mae arfordir y de o Sant Gofan i Staciau’r Heligog yn rhan o ‘Range East’, sef meysydd tanio tanciau Castell Martin sy’n aml ar agor i’r cyhoedd. Mae’r arfordir dramatig a’r clogwyni calchfaen yn boblogaidd iawn ymhlith dringwyr.

Mae llwybr yr arfordir ar hyd y clogwyn yn wastad, a hwn yw’r unig ddarn sydd ar agor i feicwyr, ond mae hefyd yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, er ei fod ychydig yn anwastad mewn mannau. Chwiliwch am hafnau Stennis Ford a Huntsmans Leap, Staciau’r Heligog a’r bwa o graig ym Mhont Werdd Cymru.

Anaml y mae Range West ar agor. Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnal un neu ddwy daith gerdded dywysedig drwy Range West, ac mae dringwyr yn cael mynediad os ydynt wedi bod yn un o’r sesiynau gwybodaeth blynyddol ac wedi rhoi gwybod i Wersyll Merrion pryd a ble maen nhw’n mynd.

Ym mhen gorllewinol pellaf y meysydd tanio mae traeth hir, llydan, gwyllt a thwyni Freshwater West. Defnyddiwyd y traeth fel lleoliad ar gyfer y golygfeydd o’r frwydr yn ffilm Robin Hood ac wrth gwrs, dyma fan gorffwys y coblyn, Dobby, yn Harry Potter.

Bwyd a diod

Yn nhraeth Freshwater West, mae Cafe Môr Jonathan Williams. Ei nod yw dathlu cynnyrch Sir Benfro a Chymru mewn modd unigryw ac ysbrydoledig, gan gyfuno cynhwysion wedi’u casglu ar lan y môr â bwyd môr lleol ffres. Bwyd gwirioneddol flasus. Mae dwy dafarn yn Angle ynghyd â Wavecrest, caffi sy’n edrych allan dros fae gorllewin Angle.

Llety

Mae ychydig o wersylloedd a meysydd carafanau bychain ar y penrhyn, a chryn dipyn o fythynnod hunanarlwyo yn y pentrefi gerllaw. Mae’r gwesty agosaf yn nhref Penfro.  Chwilio am lety

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi