Penfro

Mae Penfro’n dref gaerog hyfryd sy’n dyddio nôl dros 900 mlynedd ac sy’n enwog am ei Chastell Normanaidd. Mae Castell Penfro’n un o gestyll Normanaidd mwyaf cyfan y DU. Yma ganed Harri VII, sylfaenydd llinach y Tuduriaid.

Mae tref Penfro’n enghraifft berffaith o dref gaerog ganoloesol gyda phrif stryd ganolog yn mynd i gyfeiriad y dwyrain o gatiau’r castell a ffos neu bwll y castell o gwmpas llawer iawn o’r dref. Mae waliau’r hen dref yn rhyfeddol o gyfan gyda thyrau amddiffynol fel Tŵr Barnard, tŵr trillawr trawiadol gydag adeilad blaen dros y fynedfa.

Mae gwasanaethau bws da i Aberdaugleddau a Hwlffordd. Mae gorsaf rheilffordd yn y dref hefyd.

Mae hanes Penfro ynghlwm â hanes y castell Normanaidd godidog, man geni i Harri VII a lleoliad gwarchae chwerw gan Cromwell yn ystod y Rhyfeloedd Cartref.

Saif y dref a’r castell ar grib galchfaen, ac mae’r Stryd Fawr brysur yn rhedeg ar ei hyd.

Ar un adeg roedd Penfro wedi’i amgáu gan wal gaerog, sydd â llawer ohoni’n dal i sefyll – ac roedd ffos naturiol yr ochr arall iddi. Daeth llongau masnach, a ddefnyddiai Gei Penfro, â chyfoeth i’r dref ac adeiladodd masnachwyr dai Sioraidd hardd ar y Stryd Fawr.

Gweithgareddau

Mae llwybr cerdded diddorol o gwmpas pwll y castell ac ar yr ochr i mewn, o dan ragfuriau’r castell. Mae’n addas ar gyfer coestis a chadeiriau olwyn. Mae Llwybr yr Arfordir yn dilyn y llwybr o gwmpas Pwll y Castell cyn mynd tuag at Ddoc Penfro i un cyfeiriad ac allan i Angle i’r cyfeiriad arall.

Atyniadau

Castell Penfro yw’r rheswm y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ymweld â’r gornel hon o Sir Benfro. Mae’n grair ganoloesol ardderchog gydag ystafelloedd di-ben-draw, grisiau carreg troellog, twneli, bylchfuriau a thyrrau bychain i’ch diddori am oriau. Ceir golygfeydd ardderchog o’r dref, y wlad a’r ddyfrffordd gerllaw, yn enwedig o ben y Tŵr Mawr. O dan y castell, i lawr grisiau troellog, cul mae’r Wogan, sef ceudwll mawr naturiol.

Bwyd a diod

Ar Stryd Fawr Penfro mae nifer o hen adeiladau hardd gyda bob math o siopau, tafarnau, caffis a bwytai. Hefyd, ceir delis, archfarchnad, tecawes a’r mathau eraill o gyfleusterau sydd ar gael mewn tref fechan.

Llety

Mae ambell i westy, tŷ llety a lle gwely a brecwast yn nhref Penfro a’r pentrefi cyfagos. Mae ambell i wersyll a maes carafanau teithiol yn yr ardal ond mae’r parciau carafanau statig ym Maenorbŷr neu Angle. Mae digon o fythynnod hunanarlwyo mewn pentrefi cyfagos.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi