Pen-caer

Pentir yng ngogledd orllewin Sir Benfro yw Pen-caer, ychydig i’r gorllewin o Abergwaun. Er ei fod yn cael ei adnabod fel Penrhyn Pen-caer, nid yw’n benrhyn mewn gwirionedd, er ei fod yn gallu teimlo’n eithaf anghysbell gyda’r môr a’r bryniau o’ch cwmpas i bob cyfeiriad.

Goleudy Pen-caer, ar ynys fechan gyda phont grog yn ei gysylltu â’r arfordir, yw’r atyniad mawr yma. Bellach, mae’r goleudy’n awtomatig felly does dim posibl mynd ato.

Mae Gwibiwr Strwmbwl yn cysylltu mannau ar hyd yr arfordir rhwng Tyddewi ac Abergwaun, gan wneud teithiau cerdded ar hyd y rhan hon o Lwybr Arfordir Sir Benfro yn hwylus iawn. Mae’r gwasanaeth yn mynd yn gynnar ac yn hwyr, gan ei gwneud yn bosibl i chi deithio i un man yn y bore a dychwelyd o fan arall yn y prynhawn.

Mae’r orsaf rheilffordd agosaf yn Abergwaun, ac mae 7 trên yno bob dydd.

Mae gan Stena Ferries wasanaeth fferi car a theithiwr ddwywaith y dydd o Harbwr Abergwaun i Rosslare yn Iwerddon.

Ar Drwyn Carreg Wastad, ychydig filltiroedd i’r dwyrain o Oleudy Pen-caer y bu’r ymosodiad diwethaf ar dir mawr Prydain, pan laniodd 1,200 o filwyr Ffrengig yno yn 1797.  

Mae tapestri 100 troedfedd o hyd i goffâu’r digwyddiad i’w weld yn hen neuadd y dref yn Abergwaun. Mae’r tapestri, sydd mewn steil tebyg i Dapestri Bayeux, yn adrodd hanes y glaniad aflwyddiannus mewn ffordd ddifyr a doniol ac mae nifer o’r golygfeydd yn cyfeirio at ddigwyddiadau ym Mhen-caer.

Gweithgareddau

Gerllaw, mae hen gwt gwylwyr y glannau wedi cael ei adnewyddu er mwyn ei ddefnyddio fel lloches i wylio bywyd gwyllt. Pen-caer yw un o’r mannau gorau yng Nghymru i wylio adar mudol wrth iddynt ddilyn yr arfordir i fyny ac i lawr gorllewin Prydain. Gan fod Pen-caer yn yn ymestyn allan mor bell i Fae Ceredigion, mae’r adar yn agos at ei gilydd ac yn agos i’r lan.

Un o’r adegau gorau i wylio adar yw toc wedi’r wawr yn yr hydref a hynny ar ôl cyfnod o dywydd garw, pan fydd yr adar yn ailgychwyn ar eu taith ar ôl cysgodi mewn hafan fel Aberdaugleddau.

Mae sgiwennod mawr a sgiwennod y gogledd i’w gweld yn aml, yn ogystal â phedrynnod drycin, pedrynnod cynffon-fforchog, pedrynnod mwythblu, pedrynnod Wilson, sawl rhywogaeth o fôr wenoliaid, gwylanod Sabine, adar drycin mawr, adar drycin bach, ac adar drycin duon.

Ac nid adar môr yn unig sydd yma. Mae adar y gwlyptir i’w gweld hefyd, yn enwedig môr hwyaid duon ac adar hirgoes fel y bioden fôr a’r gylfinir.

Mae’n lle poblogaidd i wylio dolffiniaid a llamhidyddion. Bob blwyddyn, bydd grŵp lleol o’r enw’r Sea Trust yn cynnal sawl arolwg yma.

Atyniadau

Mae ardal Pen-caer yn wych os ydych am gerdded Llwybr Arfordir Sir Benfro, ond gall y rhan hon fod yn eithaf anodd mewn mannau. Gallwch ddechrau taith gylchol dda o bentref Llanwnda gyda’i gromlech Neolithig a’i eglwys fechan.

Dilynwch y llwybr tua’r gorllewin i’r ffordd fechan sy’n mynd tuag at Oleudy Pen-caer a dilynwch honno nes cyrraedd Fferm Trenewydd. Ychydig heibio i’r fferm, mae llwybr troed sy’n eich arwain drwy rai o adeiladau’r fferm ar lwybr garw tua’r de.

Islaw bryn bychan o’r enw Garn Folch, dilynwch lwybr arall tua’r gorllewin er mwyn cyrraedd ffordd fechan arall. Trowch i’r chwith yma, i fyny’r allt, ac i ben Garn Fawr – caer o Oes yr Haearn sydd â golygfeydd gwych. Ewch yn eich blaen tua’r gorllewin i lawr yr allt serth tuag at glwstwr o fythynnod a hostel ieuenctid Pwll Deri.

Mae gweddill y daith yn dilyn Llwybr yr Arfordir at Drwyn Carreg Wastad cyn troi i mewn i’r tir a dychwelyd i Lanwnda. Dyma rai o’r golygfeydd gorau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Gerllaw, mae melin wlân draddodiadol Melin Tregwynt. Gwerthir nwyddau modern nodweddiadol y felin hon mewn siopau moethus ledled y byd. Mae siop a chaffi yno, a chewch gyfle i weld y gwehyddu.

Bwyd a Diod

Yn Wdig a Mathri mae’r lleoedd bwyta agosaf. Mae caffi Melin Tregwynt gerllaw hefyd.

Llety

Does fawr o ddewis o ran llety o gwmpas Pen-caer. Mae maes gwersylla a maes carafanau ger y goleudy, a hostel ieuenctid ym Mhwll Deri sydd â rhai o olygfeydd gorau’r Sir. Mae ambell i fwthyn hunanarlwyo yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys un sydd heb drydan!

Bu rhaglen deledu ‘A Pembrokeshire Farm’ yn dilyn hanes Griff Rhys-Jones wrth iddo adnewyddu hen ffermdy ar y pentir yma, ac mae’r tŷ bellach ar gael fel llety hunanarlwyo.

Mae gwestai, tai llety, tafarnau a gwely a brecwast yn Wdig. Yn Abergwaun, mae parc gwyliau gyda charafanau hunanarlwyo statig.

Beth am aros am benwythnos a threulio 48 awr yn Abergwaun, er mwyn cael cyfle i grwydro’r ardal?