Neyland

Tref fechan yw Neyland ar arfordir gogleddol Dyfrffordd y Ddau Gleddau, rai milltiroedd i’r dwyrain o Aberdaugleddau. Tyfodd y dref o gwmpas y rheilffordd.

Mae gwasanaeth bws rhif 356 yn cysylltu Neyland ag Aberdaugleddau a Doc Penfro.

Yn 1851, roedd llai na 200 o bobl yn byw ym mhentref di-nod Neyland, a elwid weithiau’n a ‘Nayland’. Roedd Purfa Halen a Iard Longau yn y pentref hwn ar lethr gogleddol Aberdaugleddau ar un adeg ac yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg doedd dim ond bythynnod, dau gapel a dwy dafarn yma.

Cafodd y rhan fwyaf o’r adeiladau eu dymchwel gan y Cwmni Rheilffordd rhwng 1855 a 1856. Pan agorodd y rheilffordd, datblygodd Neyland hollol newydd gerllaw’r rheilffordd hollbwysig. Isambard Kingdom Brunel ddewisodd Neyland fel pendraw’r rheilffordd. Mae hi felly’n gwbl briodol ei fod yn cael ei ystyried fel sylfaenydd tref Neyland.

Wedi i’r rheilffordd agor, trawsnewidiwyd rhan ddwyreiniol Plwyf Llanstadwell yn llwyr. Roedd yn gyfnod o dwf aruthrol. Adeiladwyd tai newydd ar gyfer gweithwyr y rheilffordd, dechreuodd gwasanaeth llongau stêm i Waterford, ac yn ddiweddarach i Cork yn Iwerddon gan Ford & Jackson ym mis Awst 1856.

Lansiwyd pontŵn anferth a gynlluniwyd gan Brunel yng ngwanwyn 1857 er mwyn ei gwneud yn haws cludo teithwyr a da byw i ac o Iwerddon. Ym 1858, dechreuodd gwasanaeth llongau stêm o Neyland i Bortiwgal a Brazil.

Roedd Neyland wir yn dref rheilffordd ffyniannus. Cynyddodd poblogaeth Plwyf Llanstadwell yn gyflym i fil a phedwardeg pump o bobl ym 1861 ac agorodd gwesty trawiadol, y South Wales Hotel, ym 1858. Caniataodd Ystadau Castell Pictwn a Lawrenni, a oedd yn cynnwys Neyland yn bennaf, nifer o brydlesau ar gyfer adeiladu tai. Adeiladwyd pedwar capel newydd a siopau ac ymddangosodd gwasanaethau a chyfleusterau newydd a magodd Neyland bwysigrwydd a statws na fyddai trigolion yr hen bentref bach cysglyd erioed wedi breuddwydio amdano.

Parhaodd yr oes aur hon am tua 50 mlynedd.

Gweithgareddau

Caeodd y rheilffordd ym 1964 ac ers hynny mae wedi’i droi’n Llwybr Beicio Brunel sy’n dilyn llwybr yr hen reilffordd i Johnston ac yna ymlaen ar lwybr mwy troellog, oddi ar y ffordd, yr holl ffordd i Hwlffordd.

Heddiw mae marina wedi’i ddatblygu lle’r oedd yr orsaf ym mhendraw’r rheilffordd gynt. Gallwch fynd ar daith cwch i fyny’r afon neu allan i weld ynysoedd yr arfordir.

Bwyd a diod

Mae bar, bwyty a siop offer môr yn y Marina. Oddi wrth y marina mae nifer o dafarnau yn y dref ynghyd â siop fechan a nifer o decawes.

Llety

Mae’r gwestai agosaf at Neyland yn Aberdaugleddau neu ychydig y tu allan i Burton. Mae’r Ferry Inn yn Llanstadwell yn cynnig llety yn ogystal â phrydau bwyd ac mae un neu ddau o leoedd gwely a brecwast yn yr ardal, gan gynnwys Neyland Court. Mae’r gwersylloedd, meysydd carafanau teithiol neu barciau gwyliau ymhellach i ffwrdd.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi