Nanhyfer
Mae Nanhyfer yn bentref bychan i’r dwyrain o Drefdraeth, yn nyffryn Afon Nyfer, ger mynyddoedd y Preseli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Lle bach tawel, hardd yw Nanhyfer bellach ond yn yr oesoedd canol roedd y pentref yn ganolfan weinyddol bwysig. Mae stôr o gofebion hanesyddol yma, gan gynnwys gweddillion castell mwnt a beili uwchben y pentref, a phont hynafol.
Mae Castell Nanhyfer ar ochr ogleddol y pentref ar y ffordd gefn i Drewyddel. Roedd yn un o gadarnleoedd Cymru, a mwy na thebyg yn fryngaer cyn hynny. Cipiwyd y castell ddechrau’r 12fed ganrif gan y Norman Robert Fitzmartin, Arglwydd Cemmaes, a adeiladodd fwnt a beili mawr wedi’i amddiffyn gan ragfuriau pridd dwbl. Gellir gweld y llethrau pridd a thomen y mwnt yn y goedwig hyd heddiw.
Mae eglwys Normanaidd Sant Brynach ar safle ‘clas’ Sant Brynach o’r 6ed ganrif, a oedd yn ganolfan eglwysig bwysig. Dywedir bod saith esgob yn Nyfed ar y pryd, ac roedd hwn, fwy na thebyg, yn ganolfan i un ohonynt. Heblaw am y tŵr castellog sy’n beryglus o agos at Afon Gamman, mae’r rhan fwyaf o strwythur Normanaidd gwreiddiol yr adeilad presennol wedi cael ei ail-adeiladu. Mae’r eglwys a’r fynwent yn ddiddorol oherwydd y groes Geltaidd a nifer o gerrig sydd wedi eu harysgrifio.
Mae Croes Nanhyfer ar ochr ddeheuol yr eglwys yn dyddio o’r 10fed ganrif neu ddechrau’r 11fed ganrif ac mae Carreg Vitalianus wedi ei harysgrifio mewn Lladin ac Ogam Wyddelig.
Yn y fynwent hefyd mae croes Geltaidd 13 troedfedd o uchder ac ywen ‘waedlyd’, ryfeddol. Mae lôn o goed yw, 700 mlwydd oed, yn eich arwain trwy’r fynwent, ac un ohonynt yw’r ywen ‘waedlyd’ enwog sydd â sawl chwedl ynghlwm â hi. Dywed rhai ei bod yn gwaedu am fod dyn ifanc wedi’i grogi ar gam amser maith yn ôl, eraill y bydd yn gwaedu hyd nes bod Cymro’n dywysog ar Gastell Nanhyfer, ac eraill y bydd yn gwaedu hyd nes bod heddwch drwy’r byd.
Atyniadau
Ychydig dros 3 milltir i’r dwyrain o Nanhyfer saif Castell Henllys, bryngaer o’r Oes Efydd sydd, yn ôl yr wybodaeth a gafwyd o’r cloddiadau archeolegol, wedi’i hailgreu â thai crynion ac adeiladau eraill yn union yr un man â’r adeiladau gwreiddiol. Daw’r lle’n fyw yn yr haf pan gaiff y cyfnod ei ail-greu drwy arddangosiadau a gweithgareddau.
Ddwy filltir i’r de mae siambr gladdu Neolithig Pentre Ifan ar ochr y bryn uwchlaw’r pentref. Mae hwn yn lleoliad anhygoel, gyda Charn Ingli a Bae Trefdraeth yn y cefndir.
Bwyd a diod
Mae un dafarn yn Nanhyfer, sef y Trewern Arms, sydd â dewis da o brydau bwyd a llety. Mae mwy o ddewis o dafarndai a bwytai yn Nhrefdraeth sydd 2 filltir i’r gorllewin.
Llety
Mae’r gwestai agosaf at Nanhyfer yn Aberteifi neu Abergwaun ond mae tafarn yn Nanhyfer a mwy o ddewis yn Nhrefdraeth a Felindre Farchog. Does fawr o leoedd gwely a brecwast na thai llety ychwaith ond mae rhywfaint yn Nhrefdraeth.
Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol ar gael ond nid yn y pentref ei hun. Mae parc gwyliau â chyfleusterau gwersylla ym Maenor Llwyngwair ar y ffordd i Drefdraeth. Mae ganddynt garafanau statig i’w rhentu. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Sir Benfro, gan gynnwys ym mhentref Nanhyfer.