Mathri
Mae gwreiddiau Mathri, sydd ar ben bryn, yn yr Oes Efydd pan oedd y pentref yn gaer amddiffynnol ac wedi ei lleoli’n berffaith ar gyfer gweld unrhyw elynion yn dod o bell. Heddiw, mae Mathri’n lle tawel gyda strydoedd bychain yn plethu dros gopa’r bryn. Mae golygfeydd ardderchog o Benrhyn Tyddewi o nifer o fannau yn y pentref.
Gellir teithio rhwng Mathri ac Abergwaun a Thyddewi ar wasanaeth bws arfordirol 404: Gwibiwr Strwmbwl.
Gweithgareddau
I lawr y bryn mae un o ganolfannau gweithgareddau Sir Benfro, Preseli Venture, sy’n cynnig yr unig lety gweithgareddau 5 seren yn y sir. Ceir gwahanol fathau o wyliau gweithgareddau yma, boed yn benwythnosau adrenalin, cyrsiau adeiladu tîm neu ddigwyddiadau teuluol.
Atyniadau
Mae siop hen bethau fechan gyda chaffi yn y pentref.
Ychydig i’r gogledd o Fathri mae melin wlân Melin Tregwynt, sy’n cynhyrchu deunyddiau o wlân i siopau fel Fortnum & Mason’s. Gallwch weld y peiriannau gwehyddu’n gweithio a gallwch grwydro o gwmpas y siop.
I’r gorllewin a’r gogledd o Fathri mae rhai o’r golygfeydd gorau ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, o Dre-fin i Abercastell i Aber Mawr ac ymlaen i Ben-caer.
Bwyd a diod
Mae un dafarn ym Mathri, sef y Farmer’s Arms, sy’n gwneud prydau bwyd amser cinio a gyda’r hwyr. Mae hefyd yn lle da ar gyfer cerddoriaeth fyw. Mae caffi wedi agor yn y siop hen bethau.
Llety
Mae digon o lety ar gael yn yr ardal. Mae’r gwestai agosaf yn Nhyddewi neu Abergwaun ond mae digon o leoedd gwely a brecwast, tai llety a ffermdai sy’n cynnig gwely a brecwast. Mae llawer o wersylloedd neu feysydd carafanau teithiol ac un neu ddau o barciau gwyliau yn Nhyddewi neu Abergwaun. Mae digon o fythynnod hunanarlwyo yn y rhan hon o Sir Benfro gan gynnwys rhai ym Mathri ei hun. Mae hostel ieuenctid ym Mhwll Deri ger Llwybr yr Arfordir.