Maenorbŷr

Mae Maenorbŷr yn bentref glan y môr hyfryd gyda bae tywodlyd ardderchog sy’n boblogaidd gyda syrffwyr, a chastell hardd, canoloesol sy’n edrych dros y bae. Yma ganwyd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) ac roedd y pentref yn ffefryn gyda George Bernard Shaw a Virginia Woolf.

Mae tafarn glyd ac Eglwys Normanaidd ddiddorol yn y pentref. Cafodd Maenorbŷr ei ddynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro ym 1997.

Mae gwasanaeth bws 349 yn cysylltu Maenorbŷr â Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod ac mae gorsaf reilffordd yn y ddwy dref.

Mae hen, hen hanes i Maenorbŷr ac mae darganfyddiadau archeolegol wedi dyddio arteffactau yn ôl i gyfnodau Mesolithig a Neolithig cynnar, sydd 11,500 o flynyddoedd yn ôl! Y peth mwyaf dramatig i oroesi o’r cyfnod Neolithig yw siambr gladdu neu gromlech King’s Quoit sydd wrth ymyl y llwybr ar y clogwyn ar ochr ddwyreiniol Bae Maenorbŷr.

Derbyniodd y marchog Normanaidd Odo de Barri dir yn negawd olaf yr 11eg ganrif ac adeiladodd neuadd bren ar safle’r castell gan ei hamgylchynu â chloddiau. Ei fab ddechreuodd adeiladu castell carreg Maeorbŷr sydd yma heddiw. Adeiladwyd tŵr mawr sgwâr ynghyd â neuadd gain ac, erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd yr adeiladau hyn wedi eu hamgáu gan ddau gysylltfur o garreg gyda thyrau a phorthdy cadarn.

Gweithgareddau

Mae’n hyfryd cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir i’r ddau gyfeiriad, ond mae gorfod cerdded o gwmpas terfyn Gwersyll Maenorbŷr yn lleihau rhywfaint ar bleser y daith i gyfeiriad Dinbych-y-pysgod.  Mae hyn hefyd yn golygu nad oes llwybrau cylchol, byrrach yn yr ardal hon. I’r gorllewin, byddwch yn mynd heibio Bae Swanlake a Freshwater East.

Atyniadau

Mae Castell Maenorbŷr mewn lleoliad trawiadol uwchben y traeth; mae yma waith carreg mewn cyflwr da, capel, tŵr crwn a phorthdy; nifer o risiau, tyrau, ystafelloedd a bylchfuriau i’w harchwilio a ward mewnol wedi ei droi’n erddi.

Hefyd yn y pentref mae’r Beer House sydd wedi ei adnewyddu, a cholomendy o dan waliau’r castell. Ar Lwybr yr Arfordir i’r dwyrain mae cromlech garreg y King’s Quoit uwchben y bae.

Bwyd a diod

Mae’r unig dafarn ym Maenorbŷr, y Castle Inn, yn gweini bwyd. Mae gan y Beach Break Tea Rooms, yng nghanol y pentref, ardd hyfryd i gael paned o de.

Llety

Mae bwyty gydag ystafelloedd gwely ym Maenorbŷr ynghyd â nifer o leoedd gwely a brecwast, tai llety a ffermdai. Mae nifer o wersylloedd a pharciau carafanau teithiol a nifer o barciau gwyliau ar gyrion y pentref gyda charafannau statig hunanarlwyo ar gael. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ar gael ledled y rhan yma o Sir Benfro, gan gynnwys ym Maenorbŷr ei hun. Mae Hostel Ieuenctid Maenorbŷr ar ochr ddwyreiniol y pentref wrth ochr Llwybr yr Arfordir, hanner ffordd i Lydstep.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi