Maenclochog a Rosebush
Pentref bychan ar odre Mynyddoedd y Preseli yng nghefn gwlad Sir Benfro yw Maenclochog. Mae Rosebush 1½ milltir ymhellach i’r gogledd.
Datblygodd pentref Rosebush pan agorodd dwy chwarel lechi yma, sef chwarel Bellstone a chwarel Rosebush. Roeddent yn gweithio rhwng 1825 ac 1891 ac oddi yma daeth y llechi ar gyfer Palas San Steffan yn Llundain. Adeiladwyd rheilffordd er mwyn cludo’r llechi ond mae honno wedi hen ddiflannu. Fodd bynnag, mae platfform y pentref yn dal yno.
Ym Maenclochog mae ymchwilwyr wedi darganfod gweddillion yr hyn a gredir ei fod yn gastell o’r 13eg ganrif.
Roedd Rheilffordd Maenclochog, a elwid yn flaenorol yn Narberth Road and Maenclochog Railway, yn mynd o Glunderwen, ar Reilffordd y Great Western Railway, trwy Faenclochog, i Rosebush.
Daeth y twnnel sydd y tu allan i Faenclochog yn enwog yn ystod y rhyfel pan ddefnyddiodd Barnes Wallis y lle i brofi ei ‘bouncing bomb’.
Gweithgareddau
Mae Coedwig Pantmaenog ger Rosebush wedi agor i’r cyhoedd yn ddiweddar ac mae 12km o lwybrau cerdded, beicio mynydd a marchogaeth yno. Mae Rosebush yn gyfleus ar gyfer y teithiau cerdded ardderchog sydd ym Mynyddoedd y Preseli.
Atyniadau
Ar ochr orllewinol y pentref mae Cofeb Waldo sy’n dathlu bywyd Waldo Williams, un o feirdd Cymraeg mwyaf blaenllaw’r ugeinfed ganrif. Roedd hefyd yn heddychwr nodedig, yn ymgyrchydd yn erbyn rhyfeloedd ac yn genedlaetholwr Cymreig.
Ychydig i’r de o Fynachlog-ddu mae cylch cerrig Gors Fawr. Mae 16 carreg las yn y cylch siâp ŵy. Credir bod lôn yn arwain at y ddwy allgraig sydd yn y gogledd ddwyrain ar un adeg. Mae cylch cerrig rhannol arall ar Fynyddoedd y Preseli, uwchlaw’r pentref mewn man o’r enw Bedd Arthur.
I’r de orllewin o Faenclochog mae bwthyn Penrhos, bwthyn bychan iawn oedd ar un adeg yn gartref i 12! Mae hwn yn fwthyn to gwellt nodweddiadol o Ogledd Sir Benfro sydd wedi goroesi heb newid fawr ddim ers y 19eg ganrif. Yn fwthyn ‘unnos’ a adeiladwyd yn wreiddiol tua’r flwyddyn 1800 a’i ail-adeiladu o garreg yn ddiweddarach, mae Penrhos, gyda’i ddodrefn derw Cymreig, yn gyfle unigryw i flasu bywyd yr hen dyddynwyr. Mae’r bwthyn ar agor drwy apwynitad gyda Maenordy Scolton yn unig.
Bwyd a diod
Tafarn pentref Rosebush yw’r Dafarn Sinc enwog. Cafodd y dafarn ei hadeiladu’n wreiddiol fel adeilad dros dro ar gyfer y chwarelwyr yn y chwarel lechi gerllaw. Fe’i hadeiladwyd o bren wedi ei orchuddio â haenau o sinc. Mae’n rhaid mai hon yw un o’r ychydig o dafarnau ‘cwt sinc’ yn y wlad ac mae’n werth i chi fynd yno. Os ydych am gael cinio dydd Sul yno yn ystod y gaeaf bydd angen i chi archebu bwrdd o flaen llaw. Mae bistro a bar yn Yr Hen Swyddfa Bost hefyd.
Ym Maenclochog mae tafarn bentref y Globe, ynghyd â gorsaf betrol a dwy siop bentref.
Llety
Mae’r rhan hon o Sir Benfro’n wledig iawn ac yn eithaf anghysbell felly does fawr o lety yn yr ardal. Mae’r gwestai agosaf yn Hwlffordd neu Arberth. Mae un lle gwely a brecwast ym Maenclochog ac un arall ym Mynachlog-ddu. Mae Parc Gwyliau ym Mynachlog-ddu a pharc carafanau a gwersylla yn Rosebush. Mae bythynnod hunanarlwyo yn y cyffiniau ac mewn pentrefi cyfagos fel Llys Y Frân.