Lydstep

Mae Lydstep yn bentref bychan rhwng Dinbych-y-pysgod a Maenorbŷr yn ne Sir Benfro.

Mae Lydstep ar lwybr gwasanaeth bysiau rhif 349 sy’n cysylltu’r pentref â Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd.

Yng nghanol y pentref mae gweddillion Palas Lydstep, tŷ neuadd o ddiwedd yr oesoedd canol, sydd â chladdgell fwaog. Bellach nid oes to arno ac mae’n adfail rhannol, ond mae wedi cael ei atgyweirio gymaint â phosibl. Fe ymddengys bod Palas Lydstep wedi cael ei ddefnyddio fel llys ar gyfer Maenor Maenorbŷr a Phenalun yn ogystal â fel cartref.

Yn ystod y canoloesoedd, mae’n debyg bod y llawr cyntaf yn cynnwys un siambr fawr wedi ei rhannu’n llai gan o leiaf un bwa agored. Ymhlith y newidiadau a wnaed wedi’r oesoedd canol oedd rhannu’r llawr cyntaf yn dair ystafell.

Wrth gloddio’r adeilad darganfuwyd pen bwyell garreg neolithig yn y pridd, ond mae’n debygol bod y pen bwyell wedi dod gyda phridd a gludwyd yno i greu gardd yn ystod y 19eg ganrif.

Gweithagreddau

Mae canolfan weithgareddau fechan yn cynnig gwasanaeth llogi jet sgis a chaiacau ar Draeth Lydstep. Mae cwrs golff naw thwll yn Celtic Haven,  Lydstep ac mae Cwrs Golff Trefloyne i lawr y ffordd.

Atyniadau

2.5 milltir i ffwrddm ym Maenorbŷr, mae Castell Maenorbŷr mewn lleoliad godidog yn edrych dros draeth hardd sydd heb ei ddifetha o gwbl. Dim ond 4 milltir i’r gogledd mae Parc Chwaraeon Heatherton a pharc bywyd gwyllt Manor House ac mae Dinbych-y-pysgod 4 milltir i’r dwyrain.

Bwyd a diod

Y Lydstep Tavern yw’r unig dafarn yn y pentref ond gallwch hefyd fwyta yn Waves Italian Bar and Restaurant ym Mhentref Gwyliau Celtic Haven. Mae mwy o ddewis yn Ninbych-y-pysgod sydd 4 milltir i’r gorllewin o’r pentref.

Llety

Mae digon o lety yn y cyffiniau. Mae Pentref Gwyliau Lydstep Beach yn llenwi Lydstep Haven yn gyfan gwbl. Mae’r rhan fwyaf o’r carafanau statig dan berchnogaeth breifat ond mae rhai ar gael i’w rhentu. Mae bythynnod hunanarlwyo ar gael ledled y rhan hon o Sir Benfro. Mae gwersylloedd, meysydd carafanau teithiol a pharciau gwyliau ym Mhenalun a Maenorbŷr. I’r rhai sy’n cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir, mae hostel ieuenctid fodern hanner ffordd rhwng Lydstep a Maenorbŷr.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi