Llys y Frân
Mae pentref o’r enw Llys y Frân ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn adnabod yr enw oherwydd Parc Gwledig Llys y Frân sy’n amgylchynu’r gronfa ddŵr a’r argae trawiadol.
Gweithagreddau
Mae trac ardderchog, 7 milltir o hyd, o gwmpas y gronfa ddŵr. Gallwch naill ai gerdded neu feicio o’i chwmpas ar feic mynydd. Mae beiciau ar gael i’w llogi yn y ganolfan groeso.
Mae Llys y Frân yn ganolfan bysgota boblogaidd. Gallwch naill ai bysgota oddi ar y lan neu logi cwch. Mae cychod arbennig ar gael i rai sy’n defnyddio cadair olwyn hefyd.
Bwyd a diod
Mae caffi yng nghanolfan groeso’r gronfa ddŵr. Am fwy o ddewis, ewch i Hwlffordd sydd 10 milltir i ffwrdd neu Gas-blaidd sydd 5 milltir i ffwrdd neu Rosebush sydd 4 milltir i ffwrdd.
Llety
Mae’r rhan hon o Sir Benfro’n wledig iawn ac yn gymharol anghysbell felly ychydig iawn o lety sydd ar gael yn yr ardal. Mae’r gwestai agosaf yn Hwlffordd neu Arberth. Mae un neu ddau o leoedd gwely a brecwast ym Maenclochog, sydd ychydig yn nes. Mae gwersyll a maes carafanau teithiol gerllaw yn Rosebush. Mae bythynnod hunanarlwyo ym mhentref Llys Y Frân.