Llawhaden
Mae Llanhuadain ar ben bryn rhwng Arberth a Hwlffordd. Mae adfeilion Castell Llanhuadain uwchlaw’r pentref. Palas Esgob yw hwn yn hytrach na chastell mewn gwirionedd, ond mae’r adfeilion mewn man trawiadol, ar dir uchel yn edrych dros ddyffryn y Gleddau Ddu.
Tyfodd pentref Llanhuadain o gwmpas y castell, a oedd yn wreiddiol yn gastell mwnt a beili o ddechrau’r 12fed ganrif. Roedd Llanhuadain, a adnabyddwyd fel castell Landsger, ar y llinell ddychmygol a wahanai dde Sir Benfro Normanaidd oddi wrth y llwythi Cymreig yng ngogledd y sir. Mae’n edrych fel castell, ond palas esgob caerog ydyw mewn gwirionedd ac fe’i defnyddiwyd fel palas tan y 16eg ganrif.
Ymhlith ei nodweddion mae cragen fawreddog y porthdy. Mae’r wal allanol ar yr ochr ddeheuol yn eithaf cyfan ac yn cynnwys grisiau modern i’r bylchfuriau er mwyn gallu mwynhau’r golygfeydd godidog. Glaswellt yw’r gorthwr yn bennaf ac mae rhai ystafelloedd a chladdgelloedd rhannol fwaog i chi eu harchwilio.
Gweithgareddau
Mae gan gyn-bencampwr y byd ac Ewrop, Ian Heaps, bysgodfa ger Eglwys Llanhuadain. Gellir pysgota yn y llynnoedd drwy’r flwyddyn ac mae Ian yn cynnig hyfforddiant i bysgotwyr newydd.
Atyniadau
Castell Llanhuadain wrth gwrs, sy’n breswylfa esgob gaerog drawiadol o’r 13eg ganrif.
Ger Llanhuadain, ar hyd yr A40 ychydig i’r gorllewin, mae Fferm Antur Clerkenhill sydd â llwybr natur i blant a gweithgareddau sy’n cynnwys golff ffrisbi.
Ychydig filltiroedd i’r de o Lanhuadain, yn Bluestone, mae parc dŵr y Blue Lagoon sydd ar agor drwy’r flwyddyn.
Bwyd a diod
Does dim cyfleusterau yn Llanhuadain ac mae’r dafarn agosaf yn Robeston Wathen, sydd ychydig dros 2 filltir i’r de.
Mae gorsaf betrol yn y pentref hefyd. Mae mwy o ddewis o dafarndai, bwytai a chaffis yn Arberth, yn ogystal â lleoedd tecawe a delis.
Llety
Ychydig o lety sydd yn Llanhuadain ond mae ambell i le gwely a brecwast a bwthyn hunanarlwyo yn Robeston Wathen, sydd ryw 5 munud i ffwrdd yn y car. Mae’r gwestai agosaf yn Arberth neu Hwlffordd. Mae’r gwersylloedd, neu feysydd carafanau teithiol agosaf o gwmpas Arberth neu Glunderwen. Dair milltir i’r de o Lanhuadain, mae Pentref Gwyliau 5 seren Bluestone sydd ger yr A4075. Mae rhai bythynnod hunanarlwyo yn yr ardal.