Llandyfái

Mae pentref Llandyfái ychydig filltiroedd i’r dwyrain o dref Penfro ar y ffordd i Faenorbŷr.

Ar ymyl gogleddol y pentref, mae olion Llys Esgob Llandyfái, un o dri phalas mawreddog gydag amddiffynfeydd oedd yn eiddo i Esgob Tyddewi yn Sir Benfro.

Ac yntau mewn man gwledig braf ychydig filltiroedd i’r dwyrain o dref Penfro, mae’n strwythur sylweddol hyd heddiw.

Beth sydd yn Llandyfái?

Atyniadau

Yn Llandyfái adeiladodd esgobion canoloesol Tyddewi encilfa odidog iddyn nhw’u hunain ymhell oddi wrth bryderon yr Eglwys a’r Wlad, sef Llys Esgob Llandyfái. Yma, ymhlith y pyllau pysgod, y perllannau, y gerddi llysiau a’r parcdiroedd eang, gallent fwynhau bywyd bonheddwyr cefn gwlad.

Roedd safonau’r llety’n hynod o uchel, felly hawdd deall pam mai Llandyfái oedd hoff fan yr esgobion erbyn canol y 14eg ganrif.

Ffrwyth llafur y dynamig Henry de Gower, Esgob Tyddewi rhwng 1328 a 1347, yw’r rhan fwyaf o’r Palas sydd i’w weld heddiw (does fawr o syndod mai ef hefyd oedd yn bennaf gyfrifol am y Llys Esgob mawreddog ger Eglwys Gadeiriol Tyddewi).

Cragen Neuadd Fawr de Gower, sydd dros 25 metr o hyd, oedd ei gyfraniad mwyaf trawiadol, ac mae’n ddiddorol sylwi ar y parapetau bwaog urddasol, dyfais bensaernïol a ddefnyddiodd Gower mor effeithiol yn Nhyddewi hefyd. Ail-luniodd De Gower y clos hefyd, gan ei amgáu â bylchfuriau.

Bwyd a diod

Mae tafarn, dau westy gyda bwytai a siop bentref gyda becws yn Llandyfái.

Llety

Llety mwyaf trawiadol Llandyfái yw’r Lamphey Court Hotel, gwesty gwledig Sioraidd hyfryd. Mae ambell i le gwely a brecwast a thai llety mewn pentrefi cyfagos fel Hodgeston neu Benfro. Ym Maenorbŷr a Freshwater East mae’r gwersylloedd a’r meysydd carafanau teithiol agosaf ac mae nifer o barciau gwyliau yn y mannau hynny.  Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo yn Llandyfái a’r pentrefi cyfagos.

Cyrraedd Llandyfái

Mae gwasanaeth bws lleol, 349 yn cysylltu Llandyfái a’r pentrefi cyfagos â Dinbych-y-pysgod a Hwlffordd. Mae gorsaf rheilffordd hefyd yn Llandyfái.

Oeddech chi’n gwybod...

Yn ôl Gerallt Gymro, Llandyfái oedd canolfan esgobion cyn-Normanaidd olaf Cymru. Cafodd y safle ei ymestyn a’i addurno’n sylweddol gan esgobion Normanaidd diweddarach. Ychwanegwyd yr Hen Neuadd, Neuadd y Gorllewin a’r Neuadd Fawr.

Ar ôl y diwygiad, aeth Llandyfái i ddwylo seciwlar Iarll Essex a’i ddisgynyddion, ond buan yr aeth â’i ben iddo.

Yn fwy diweddar, daeth y palas i ddwylo CADW, sydd wedi’i adfer.