Hwlffordd

Hwlffordd yw tref sirol ddeniadol a hynafol Sir Benfro. Yn ogystal â bod yn ganolfan weinyddol y sir, mae gan Hwlffordd ddewis da o siopau yn y dref ac ar y cyrion. Prif nodwedd canol tref Hwlffordd yw afon Cleddau Wen sy’n llifo drwy ganol y dref, a’r castell fry uwchben.

Hwlffordd yw’r dref sirol felly mae gwasanaethau bws yn ei chysylltu â gweddill Sir Benfro, ac mae gorsaf rheilffordd yma hefyd.

Sefydlwyd Hwlffordd bron i 1,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod Oes Elisabeth, Hwlffordd oedd yr ail borthladd mwyaf yng Nghymru a’r prif borthladd yng Ngorllewin Cymru hyd dyfodiad y rheilffordd ym 1853.

Y castell yng nghanol Hwlffordd yw nodwedd amlycaf y dref. Fe’i hadeiladwyd tua 1110, ac mae hanes cythryblus iddo. Ym 1779-80, adeiladwyd Carchar y Sir yn y ward mewnol ac mae’r amgueddfa bellach yn nhŷ hen lywodraethwr y carchar.

Atyniadau

Adeiladwyd castell Hwlffordd tua’r flwyddyn 1120, er nad oes unrhyw waith carreg cyn diwedd y 12fed ganrif wedi goroesi. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r strwythur presennol gan gyfres o Ieirll Penfro a Brenhines Eleanor o Castile tua diwedd y drydedd ganrif ar ddeg.

Newidiodd perchenogaeth y castell nifer o weithiau yn ystod y Rhyfel Cartref ond ym 1648 gorchmynnodd Cromwell ei ddinistrio. Yn ffodus, mae llawer ohono’n dal i sefyll – oherwydd prinder powdwr gwn.

O fewn waliau’r Castell mae amgueddfa’r dref yn hen dŷ llywodraethwr y carchar. Mae’n gartref i arddangosfeydd celf a hanes lleol ac mae arteffactau sy’n ymwneud â gorffennol y dref i’w gweld yno.

I lawr yr afon, ar y lan orllewinol, mae adfeilion Priordy Awstinaidd sydd wedi’u cloddio a’u hatgyweirio’n ddiweddar. Mae hwn yn lecyn dymunol ger yr afon, heb fod yn bell i gerdded yno o ganol y dref.

Dair milltir i’r gogledd o Hwlffordd, tuag at Abergwaun, mae Hangar 5, parc trampolinio dan do cyntaf Cymru.

Bwyd a diod

Mae digonedd o dafarndai, caffis a bwytai yn ogystal â delis yn y dref.

Cynhelir Marchnad Ffermwyr Hwlffordd ar lan yr afon bob dydd Gwener

Llety

Mae digonedd o leoedd i aros yma, gyda nifer o westai annibynnol, tai llety a lleoedd gwely a brecwast. Mae’r gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol agosaf i gyfeiriad Niwgwl neu Aberllydan, a digonedd o fythynnod hunanarlwyo yn y pentrefi cyfagos.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi