Eglwyswrw

Pentref ar fin yr A487, hanner ffordd rhwng Trefdraeth ac Aberteifi yw Eglwyswrw. A wyddech chi fod arwydd pentref Eglwyswrw wedi’i ddefnyddio yn un o ymgyrchoedd hysbysebu Eurotunnel ledled Ffrainc, yr Almaen a’r Iseldiroedd?

Gellir gweld amddiffynfa mwnt a beili Normanaidd fechan ar ochr orllewinol y pentref. Credir mai olioin tŵr sgwâr yw’r cerrig sydd i’w gweld yno.

Atyniadau

Gerddi Bro Meigan. Mae 6½ erw o lawntiau ffurfiol, borderi blodau lliwgar, dôl wyllt a glyn coediog hyfryd gyda ffynhonnau naturiol a gardd gors yma.

Ail-adeiladwyd tai crwn ac adeiladau eraill bryngaer Oes Haearn Castell Henllys, yn yr union yr un safle â’r adeiladau Oes Haearn, yn ôl cloddiadau archeolegol. Mae ail-greadau drwy gydol yr haf, sy’n dod â’r lle’n fyw.

Ewch ar reid tractor a threilar o gwmpas Fferm Geffylau Gwedd Dyfed cyn mwynhau reid ar geffyl a throl. Cewch gwrdd ag anifeiliaid traddodiadol, fel moch Cymreig, defaid Balwen ac asynnod ar y fferm waith hon, yn ogystal â lamas o Dde America. Cewch hyd yn oed helpu i fwydo’r lloi a mwytho’r anifeiliaid llai.

Bwyd a diod

Y Butchers Arms, yw’r unig dafarn sydd ar ôl yn y pentref

Llety

Mae’r gwestai agosaf yn Aberteifi ond mae gwely a brecwast yn y pentref a thafarn yn Felindre Farchog gerllaw. Mae gwersylloedd a meysydd carafanau teithiol ar gael ond nid yn y pentref ei hun. Mae parc gwyliau a chyfleusterau gwersylla yn Nhrefdraeth. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Sir Benfro.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi