Doc Penfro

Mae Doc Penfro neu Borthladd Penfro yn dref sydd â gorffennol byr ond disglair. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganfrif, doedd dim yn yr ardal ond tir fferm, ond erbyn 1901 roedd gan y dref boblogaeth o 11,000. Tyfodd yn wreiddiol o gwmpas Dociau’r Llynges Frenhinol ac adeiladwyd 260 o longau ardderchog rhwng 1814-1926, gan gynnwys nifer o gychod brenhinol a llongau rhyfel.

Mae sawl gwasanaeth bws yn cysylltu Doc Penfro â Hwlffordd, Aberdaugleddau a Dinbych-y-pysgod. Mae gan Ddoc Penfro orsaf rheilffordd hefyd. Mae gan Irish Ferries wasanaeth fferi o Ddoc Penfro i Rosslare yn Iwerddon, sy’n teithio ddwywaith y dydd, yn gynnar yn y prynhawn ac yn oriau mân y bore.

Paterchurch

Cyn dyfodiad iard longau’r Llynges Frenhinol ar lan ddeheuol aber afon Cleddau, roedd Doc Penfro’n gymuned ffermio anghysbell o’r enw Paterchurch.

Yr unig adfeilion sydd ar ôl o Paterchurch yw tŵr o’r faenor ganoloesol y credir ei bod yn dyddio o rhwng yr 1300au a’r 1400au. Mae Tŵr Paterchurch o fewn waliau’r iard longau ac fe oroesodd er bod gweddill yr ystâd wedi mynd â’i ben iddo ac wedi cael ei dymchwel er mwyn gwneud lle i’r iard longau yn hanner cyntaf y 1800au.

Iard Longau’r Llynges Frenhinol

Dechreuodd y gwaith o adeiladu llongau ar gyfer y Llynges Frenhinol ar aber afon Cleddau ddiwedd y 1700au gydag adroddiad yn argymell adeiladu iard longau yma. Bryd hynny, doedd naill ai Aberdaugleddau na Doc Penfro’n bodoli fel unrhyw fath o anheddiad.

Dechreuodd y Llynges Frenhinol adeiladu llongau ar lan ogleddol y Cleddau, ar dir ger Hubberston, dan yr enw ‘Milford’.  Golygodd dadl dros bris y tir eu bod yn symud i safle 5 milltir i ffwrdd, ar lan ddeheuol y Cleddau ger Penfro.

Sefydlwyd tref Doc Penfro ym 1814 gyda sefydliad Iard Longau’r Llynges Frenhinol.

Adeiladu llongau

Wedi i’r gwaith o sefydlu Iard Longau’r Llynges Frenhinol ddechrau, dechreuodd y gwaith o adeiladu llongau’n syth ac ym mis Chwefror 1816, lansiwyd y llongau cyntaf i gael eu hadeiladu yno.

Yn ystod ei 112 mlynedd, adeiladwyd pum Cwch Brenhinol a 263 o gychod eraill y Llynges Frenhinol yn yr iard longau. Lansiwyd y llong olaf i’w hadeiladu yno fis Ebrill 1922.

Amddiffyn y dref

Wrth i’r Iard Longau Frenhinol dyfu’n gyflym o ran maint a phwysigrwydd felly hefyd y mesurau i’w hamddiffyn. Ym 1844, dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu Barics Amddifynadwy uwchlaw’r dref newydd. Wedi cyfnod adeiladu rhyfeddol o fyr, symudodd y Morfilwyr brenhinol i mewn flwyddyn yn ddiweddarach. Fel rhan o gadwyn o amddiffynfeydd ar hyd yr aber i amddiffyn yr iard longau, adeiladwyd dau Dŵr Gynnau Caergrawnt ar ochrau gorllewinol a dwyreiniol yr iard longau. Mae’r rhain yn dyddio nôl i 1851 ac yn adnabyddus yn lleol fel ‘Tyrrau Martello’.

Canolfan y Llu Awyr Brenhinol, Doc Penfro

Ym 1930, bedair blynedd ar ôl i’r iard longau gau, dechreuodd yr Llu Awyr Brenhinol sefydlu canolfan cychod hedfan – parhaodd hyn am 29 mlynedd. Yma yn y 1930au cyflwynwyd sawl cwch hedfan, gan gynnwys y Sunderland ym 1938. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, Doc Penfro oedd yr orsaf cychod hedfan fwyaf yn y byd a chartref i awyrenwyr o nifer o wahanol wledydd. Ar ôl y rhyfel parhaodd y Sunderlands i gael eu defnyddio’n lleol tan 1957 a chaewyd yr orsaf ym 1959.

Doc Penfro Heddiw

Am 150 o flynyddoedd, roedd Doc Penfro’n dref filwrol ac yn gartref i bob un o’r tri Llu Arfog. Gadawodd yr uned filwrol olaf yn y 1960au ac mae’r dref wedi gweithio’n galed i sicrhau swyddogaeth newydd iddi’i hun ers hynny. Mae’r dref Fictoraidd hardd hon, gyda’i phatrwm strydoedd grid ac adeiladau trawiadol, wedi tyfu llawer yn ystod y 50 mlynedd ddiwethaf ac mae ganddi gysylltiadau â’i gorffennol diwydiannol anrhydeddus hyd heddiw. Heddiw mae’r iard longau’n borthladd masnachol ac yn borthladd llongau fferi i Iwerddon.

Diolch i Ganolfan Dreftadaeth Doc Penfro am eu help gyda’r adran hon.

Gweithgareddau

Mae Clwb Golff De Sir Benfro mewn lleoliad ardderchog uwchben Doc Penfro, gyda golygfeydd da dros Ddyfrffordd y Ddau Gleddau.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n croesi Pont Cleddau, yn pasio swyddfeydd y Parc Cenedlaethol, yn dilyn glan yr afon a heibio Tŵr Martello ar Front Street cyn mynd i fyny tuag at Benfro. Mae natur llwybr yr arfordir o gwmpas yr aber yn wahanol iawn i’r llwybr yn rhannau mwy garw’r arfordir.

Atyniadau

Mae Canolfan Dreftadaeth Doc Penfro, sydd yn Nghapel y Garsiwn, hen eglwys hardd Dociau’r Llynges Frenhinol, yn adrodd hanes cysylltiad y dref â chychod hedfan Sunderland. Mae’n debyg mai’r eglwys hon, a gynlluniwyd gan y pensaer llyngesol George Ledwell Taylor ac sy’n adeilad rhestredig Gradd II, yw’r unig Eglwys Sioraidd glasurol i oroesi yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu gan yr Admiralti ym 1830 fel man addoli ar gyfer gweithwyr yr iard longau.

Ym Mynwent Llanion mae beddau rhyfel 23 o filwyr y Gymanwlad o’r Rhyfel Byd Cyntaf, gan gynnwys dau forwr anhysbys yn y Llynges Frenhinol, a 51 o’r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys pedwar morwr anhysbys yn y Llynges Frenhinol ac awyrennwr anhysbys. Mae beddau rhyfel 40 o filwyr y Gymanwlad o’r Rhyfel Byd Cyntaf a 33 o’r Ail Ryfel Byd ym Mynwent Filwrol Doc Penfro.

Bwyd a diod

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae tafarn y Station Inn yn yr orsaf ac yn y gorffennol, fan hyn oedd yr ystafell aros! Mae’n gweini cwrw go iawn ac mae cerddoriaeth fyw yma’n wythnosol.

Ymhlith y tafarnau eraill mae’r Shipwright Inn ar Front Street, sy’n edrych dros Dŵr Gynnau hanesyddol Martello, a’r First and Last pub rhwng Penfro a Doc Penfro – y dafarn olaf yn Noc Penfro a’r cyntaf ym Mhenfro!

Mae tai coffi, caffis a thecawes yma. Mae La Brassaria ar Law Street yn fwyty addas ar gyfer teuluoedd ac mae rhagor o ddewis ar gael ym Mhenfro.

Llety

Mae nifer o westai yn Noc Penfro, gan gynnwys gwesty’r Cleddau Bridge. Mae ambell i le gwely a brecwast a thai llety ym Mhenfro a Doc Penfro. Mae’r gwersylloedd a’r meysydd carafanau agosaf i’r de o Benfro. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo yn yr ardal ond mae’r rhain yn fwy tebygol o fod yn nes at yr arfordir.