Dinbych-y-pysgod a Phenalun

Mae’n debyg mai Dinbych-y-pysgod yw tref glan môr mwyaf eiconig Cymru, sy’n cystadlu’n ffafriol iawn â mannau fel Mevagissey a Polperro o ran ei swyn a’i hyfrydwch. Yn sgil pleidlais gyhyoeddus, derbyniodd wobr Arian am y lleoliad arfordirol gorau yn y DU yn British Travel Awards 2016. Diolch!

Felly beth am i chi ymweld â’r dre hyfryd hon, a threulio 48 awr yn Ninbych-y-pysgod – byddwch yn siwr o ddychwelyd dro ar ôl tro.

Mae’n hawdd cyrraedd Dinbych-y-pysgod. Mae gorsaf rheilffordd gyda gwasanaeth bob dwy awr o Abertawe a phorthladd yn Noc Penfro. Mae gwasanaethau bysiau ar hyd yr arfordir deheuol ac i Hwlffordd a Chilgeti.

Mae cymuned hwylio a physgota gref yn harbwr Dinbych-y-pysgod, a gallwch ddal cwch oddi yno i Ynys Bŷr neu i fynd ar dripiau pysgota neu bleser.

Y Normaniaid sefydlodd y dref gaerog yma, ac mae’r rhan fwyaf o’r muriau’n dal i sefyll o gwmpas yr hen dref. Adeiladwyd castell i amddiffyn Dinbych-y-pysgod ar Castle Hill, ond dim ond un tŵr bychan sydd ar ôl ohono bellach. O fewn muriau’r dref, mae’r strydoedd cul a’r tai canoloesol yn ddigon i hudo unrhyw ymwelydd.

Yn ystod y cyfnod Sioraidd a Fictoraidd, daeth Dinbych-y-pysgod yn dref wyliau boblogaidd iawn. Mae’r ddwy rodfa o boptu’r hen dref, yr Esplanade a’r Norton, yn cyfrannu at olwg bensaernïol arbennig y dref.

Mae golygfa enwocaf y dref o’r Norton, y ffordd sy’n dilyn y clogwyni uwchben traeth y gogledd. Mae sawl gwesty da yma.

Eithaf bychan oedd y datblygiad Fictorianaidd ar yr ochr orllewinol y tu hwnt i furiau’r dref, ac felly nid yw wedi amharu’n ormodol ar awyrgylch y dref. Mae’r gwestai mawrion ar yr Esplanade yn wynebu Ynys Bŷr dros draeth y dre. Yn y strydoedd cyfagos ceir digonedd o leoedd gwely a brecwast, tai llety, a fflatiau hunanarlwyo.

Mae canol Dinbych-y-pysgod yn ddrysfa o strydoedd cul. Yn ystod y dydd yn yr haf ni chaniateir ceir yno, sydd felly’n galluogi’r bariau a’r bwytai i osod cadeiriau ar y stryd. Mae sawl siop ddifyr a gwahanol yno hefyd. Cafodd Dinbych-y-pysgod ei dynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1972.

Gweithgareddau

Mae dau gwrs golff gwych yn Ninbych-y-pysgod, cwrs lincs pencampwriaeth yng Nghlwb Golff Dinbych-y-pysgod, a’r cwrs parcdir yn Trefloyne Manor.

Os ydych eisiau cyffro go iawn, ewch i Battlefield LIVE! yn Llanteg, sydd 8 milltir i’r dwyrain. Mae’r gynnau laser fel saethu paintballs, ond heb y cleisiau!

Gallwch logi caiac neu gwch modur gan Tenby Watersports, mynd ar saffari jet-ski, neu gael eich llusgo trwy’r dŵr ar gwch banana neu ddonut!

Gallwch drefnu tripiau pysgota mecryll neu wylio bywyd gwyllt yn yr harbwr.

Mae Marion Davies, tywysydd profiadol a gwybodus, yn cynnig sawl taith gerdded a theithiau ysbrydion hefyd.

Atyniadau

Mae tri thraeth ardderchog yn Ninbych-y-pysgod – traeth y gogledd, traeth y de, a thraeth y castell – a chan fod pob un yn wynebu cyfeiriad gwahanol mae o leiaf un o’r tri yn siwr o fod yn gysgodol ar ddiwrnod gwyntog!

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi ailgreu Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd fel y byddai wedi bod ar ddiwedd y 15fed ganrif. Gall ymwelwyr iau wisgo gwisgoedd ffansi a chael blas ar fywyd 500 mlynedd yn ôl.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod ar Castle Hill ger yr harbwr, yw’r amgueddfa annibynnol hynaf yng Nghymru. Mae llawer o’u harddangosfeydd wedi’u hanelu at blant, fel Beware! Pirates! sy’n rhoi cyfle iddynt wisgo fel môr ladron!

Mae tripiau cwch rheolaidd o harbwr Dinbych-y-pysgod i Ynys Bŷr pan fydd y llanw’n uchel. Pan fydd y llanw allan, mae’r harbwr yn sych, ac mae’r cychod yn gadael o bontŵn ar draeth y castell. Cafodd Ynys Bŷr ei dynodi’n ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn 1997.

Mynachod Sistersaidd sydd piau Ynys Bŷr, ynys fechan nepell o draeth deheuol Dinbych-y-pysgod, ac mae mynachlog weithredol arni. Ymhlith atyniadau’r ynys mae priordy o’r 12fed ganrif, amgueddfa, siop bersawr yn y gerddi te, ac un o draethau gorau’r sir. Mae tŷ llety a llety hunanarlwyo ar yr ynys ar gyfer enciliadau.

Mae nifer o atyniadau mawr eraill yn yr ardal. Yr agosaf yw’r Parc Dinosoriaid ar y ffordd i St Florence. Filltir ymhellach ar yr un ffordd mae Heatherton ac mae Parc Bywyd Gwyllt Manor House ar draws y ffordd. I gyfeiriad ychydig yn wahanol, mae Folly Farm tua 5 milltir i ffwrdd.

Bwyd a Diod

Mae digonedd o ddewis yn Ninbych-y-pysgod. Does dim bwytai ‘cadwyn’ yno, ond yn hytrach, fe gewch leoedd bwyta o safon, faint bynnag y byddwch am ei wario. Mae’r South Beach Bar and Bistro yn fwyty modern ar y traeth, neu rhowch gynnig a’r pizzeria Top Joe’s ar Upper Frog Street- pizzeria ail-orau y DU yn ôl tripadvisor!

Llety

Mae digon o ddewis o lety yn Ninbych-y-pysgod, boed yn westy crand ger y môr neu’n barc gwyliau gyda’r holl gyfleusterau ac adloniant. Rhestrir llawer ohonynt ar y wefan hon.

Gall Canolfan Groeso Dinbych-y-pysgod, sydd ger y maes parcio aml-lawr, roi cyngor i chi ynglŷn â’r rhai mwyaf addas. Mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro Ganolfan Groeso hefyd ger Five Arches, y prif borth i mewn i’r hen dref.

Mae meysydd gwersylla, meysydd carafanau, a pharciau gwyliau safonol gerllaw, yn enwedig ym Mhenalun a New Hedges. Gallwch gyrraedd Traeth y De dros y cwrs golff o ben gorllewinol Penalun. Mae dau westy ym Mhenalun hefyd, yn ogystal â llety hunanarlwyo sydd wedi derbyn 5 seren gan Croeso Cymru. Mae New Hedges hanner ffordd rhwng Dinbych-y-pysgod a Saundersfoot. Chwilio am llety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi