Dinas
(yn cynnwys Dinas, Pen Dinas, Pwllgwaelod a Chwm-yr-Eglwys)
Mae Dinas yn bentref hir hanner ffordd rhwng Abergwaun a Threfdraeth. Mae’n bentref tlws, gyda bythynnod carreg cymen ychydig oddi ar y ffordd. Hefyd, mae garej, siop dda a thafarn o’r enw The Ship Aground yma.
Mae gwasanaeth Roced Poppit, 405, yn cysylltu Dinas â’r pentrefi arfordirol, ac mae cysylltiadau ag Abergwaun ac Aberteifi hefyd.
Ym mhen Trefdraeth o’r pentref mae lôn fechan i gildraeth bach hyfryd Cwm-yr-Eglwys. Y wal orllewinol a’r clochdwr yw’r cyfan sy’n weddill o’r eglwys ei hun. Dinistriwyd y gweddill gan storm fawr 1859.
Gweithgareddau
Mae’n werth chweil cerdded Llwybr yr Arfordir o gwmpas Pen Dinas er mwyn gweld Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar ei orau. Gall y llwybr fod yn waith caled yma, gan fod Pen Dinas 142 metr neu 465 troedfedd uwchlaw lefel y môr, ond mae’r golygfeydd yn wefreiddiol. Mae’n hyfryd dilyn y llwybr i gyfeiriad clocwedd i lawr am Gwm-yr-Eglwys, a mwynhau’r golygfeydd ardderchog tuag at Drefdraeth.
Y stribed o dir isel rhwng Pwllgwaelod a Chwm-yr-Eglwys yw’r cyfan sy’n cysylltu ‘ynys’ Dinas, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, â’r tir mawr. Mae llwybr troed llydan sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, yn cysylltu’r ddau gildraeth sydd mor wahanol i’w gilydd.
Atyniadau
Traeth tywodlyd yw traeth Cwm-yr-Eglwys gan mwyaf, a digonedd o byllau glan môr i’w harchwilio a chreigiau i’w dringo. Hefyd mae’n wynebu’r dwyrain, sy’n ei wneud yn fan cysgodol i nofio os yw’r gwynt yn chwythu o’r de-orllewin neu os oes tonnau mawr.
Bwyd a diod
Y tu ôl i draeth Pwllgwaelod mae bwyty’r Old Sailor sy’n gweini bwyd môr a chwrw go iawn. Daeth Dylan Thomas i’r dafarn hon unwaith neu ddwy o leiaf! Mae dwy dafarn yn Ninas, sef y Freemasons Arms a’r Ship Aground, siop fechan a gorsaf betrol.
Llety
Does yr un gwesty yn Ninas. Byddai’n rhaid i chi fynd i Abergwaun i gael gwesty. Mae ychydig o leoedd gwely a brecwast, neu dai llety yn Ninas a’r cylch. Mae ambell i wersyll a maes carafanau teithiol, ac ychydig o safleoedd lle gallwch logi carafán statig, hunanarlwyo hefyd. Mae llawer o fythynnod hunanarlwyo ledled y rhan hon o Arfordir Sir Benfro.