Cwm Gwaun
Mae Cwm Gwaun yn mynd i mewn i’r tir o Gwm Abergwaun tuag at Fynyddoedd y Preseli. Crëwyd y cwm gan lif y dŵr tawdd wrth i’r iâ gilio yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, gan adael cwm gwyrdd gydag ochrau serth.
Mae gan Gwm Gwaun, ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Benfro, ei awyrgylch unigryw ei hun a digonedd o fywyd gwyllt a mannau cynhanesyddol.
Mae Cwm Gwaun yn llawn hanes – yn bennaf am ei fod yn dal i fod yn yr 16eg ganrif! Pan newidiodd gweddill y byd i’r calendr Gregoraidd, gwrthododd Cwm Gwaun ac mae pobl pentrefi Pontfaen a Llanychaer yn cynnal traddodiad unigryw drwy ddathlu’r Hen Galan ar 13 Ionawr, yn ôl yr hen galendr Iwlaidd! Darllenwch ragor am yr Hen Galan – dathliad Cymreig go iawn.
Gweithgareddau
Cerdded a beicio yw’r prif weithgareddau. Prin iawn yw’r traffig ar y ffyrdd bychain tawel. Mae llwybrau beicio pellter hir Lôn Teifi a’r Llwybr Celtaidd ill dau’n mynd ar hyd Cwm Gwaun ond yn ymrannu hanner ffordd ar ei hyd.
Atyniadau
Ymhlith yr atyniadau cyfagos mae gerddi Dyffryn Fernant, sef chwe erw o wahanol fathau o blanhigion.
Ym mhen y cwm, i gyfeiriad Abergwaun, mae gerddi Penlan Uchaf, sydd ar agor bob dydd o ddechrau’r gwanwyn hyd ddiwedd yr hydref, a thrwy drefniant allan o’r tymor.
Mae safle picnic hyfryd gyda llyn a thoiledau yn Sychbant neu os ewch yn eich blaen i fyny’r cwm, fe gyrhaeddwch Ganolfan Ganhwyllau Sir Benfro yng Nghilgwyn.
Mae’n werth ymweld â Chanolfan Goetir Cilrhedyn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ystod ei ychydig ddyddiau agored yn y tymor gwyliau. Ffoniwch ymlaen llaw – 01348 881 900.
Mae’n werth ymweld â’r Dyffryn Arms neu ‘dafarn Bessie’ – darllenwch amdani yn yr adran bwyd a diod!
Bwyd a diod
Tafarn yr anhygoel Bessie Davies yw’r Dyffryn Arms ym Mhontfaen. Mae’r dafarn yn atgof o’r oes a fu. Mae’r bar yn ystafell ffrynt Bessie a’r cwrw’n cael ei weini drwy ddrws bach, yn syth o’r gasgen. Mae’n werth ymweld er mwyn y profiad, ond peidiwch â disgwyl lle ffansi. Gewch chi ddim byd ond cwrw.
Rhaid bod rhywbeth yn y dŵr oherwydd mae dau fragdy yng Nghwm Gwaun. Y cyntaf yw Cwrw Cwm Gwaun lle cewch flasu’r cwrw cyn dewis pa un i’w brynu. Mae croeso i chi ymuno yn y sesiynau canu gwerin a gynhelir yno ar nosweithiau Sadwrn, ac mae safle ardystedig gan y Clwb Gwersylla a Charafanio yno hefyd.
Yn fwy diweddar agorodd bragdy’r Bluestone Brewing Company. Mae’r micro-fragdy hwn yn defnyddio dŵr ffynnon naturiol a ddaw i lawr o Fryniau’r Preseli. Mae yma siop, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn a theithiau o gwmpas y safle, yn ogystal â’r sesiynau blasu holl bwysig wrth gwrs. Yn ystod y misoedd yr haf, mae digwyddiadau cerddoriaeth fyw yma hefyd.
Llety
Prin yw’r llety yng Nghwm Gwaun ei hun. Mae gwesty gwledig o’r enw Gelli Fawr ar ochr ddeheuol y cwm ac mae maes carafanau teithiol yn Llanychaer tuag at Abergwaun. Mae cryn dipyn o fythynnod hunanarlwyo ar gael yng Nghwm Gwaun hefyd.