Crymych a Boncath
Pentref mawr yng nghysgod Mynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yw Crymych. Mae Crymych ar yr A478 sy’n cysylltu Dinbych-y-pysgod ag Aberteifi.
Mae Boncath bedair milltir i’r gogledd o Grymych, ac mae llawer o faenordai gwych o’i gwmpas; y mwyaf trawiadol o’r rhain yw Ffynnone, a gafodd ei ddylunio a’i adeiladu gan John Nash ym 1792, a Chilwendeg, tŷ Sioraidd a adeiladwyd gan Morgan Jones.
Mae gwasanaeth bws Sir Benfro, 430, yn cysylltu Crymych a Boncath yn dda ag Arberth ac Aberteifi. Mae’r orsaf rheilffordd agosaf yng Nghlunderwen.
Ystyrir Crymych fel prifddinas y Preseli, yr ardal o gwmpas Mynyddoedd y Preseli. Mae’r diwylliant Cymreig yn gryf iawn yma, a’r Gymraeg yw mamiaith y rhan fwyaf o’r preswylwyr.
Tyfodd Crymych o gwmpas y rheilffordd yn y 19eg ganrif. Er bod y rheilffordd wedi hen fynd erbyn hyn, mae Crymych yn ganolfan amaethyddol brysur ac yn ganolfan ardderchog ar gyfer crwydro Bryniau’r Preseli. Gerllaw, mae taith gerdded heriol i gopa Frenni Fawr, sy’n 1300 o droedfeddi o uchder, ble deuai’r Ymerawdwr Rhufeinig, Magnus Maximus i hela yn ôl y sôn.
Tyfodd Boncath o gwmpas y rheilffordd hefyd, a thyfodd eto pan estynnwyd rheilffordd Hendy-gwyn ar Daf a Chwm Taf i Aberteifi. Roedd gorsaf rheilffordd Boncath, a agorwyd ym mis Medi 1886, yn orsaf dau blatfform ar y Cardi Bach, sef y lein rhwng Crymych Arms a Chilgerran Halt. Caewyd y lein yn sgil toriadau Beeching ym 1963.
Gweithgareddau
Daw’r Llwybr Celtaidd, sef llwybr beicio pellter hir a grëwyd gan Sustrans, drwy ganol Crymych. Mae’r Llwybr Celtaidd yn cychwyn ger Pont Hafren ac yn ymlwybro o gwmpas arfordir Sir Benfro. Mae’n dilyn lonydd gwledig tawel ac yn cysylltu cynifer â phosibl o leoedd a thirweddau diddorol.
Mae canolfan hamdden fechan gyda phwll nofio yng Nghrymych hefyd.
Atyniadau
Crymych yw’r man cychwyn gorau i gerdded dros Fynyddoedd y Preseli ar hyd yr Heol Aur, sef llwybr hynafol ar hyd crib y mynyddoedd. Ymhlith yr uchafbwyntiau ar y ffordd mae Foel Drygarn, bryngaer o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn, a Charn Menyn lle gallwch weld darnau o garreg dolerit smotiog; tybir mai oddi yma y daeth Cerrig Gleision Côr y Cewri.
Ym Moncath, mae neuadd gyngerdd fendigedig wedi’i hadeiladu ym maenordy Rhosygilwen, sydd â rhaglen amrywiol o ganu gwerin a chlasurol.
Mae Tŷ Cregyn Cilwendeg, i’r dwyrain o Foncath yn groto addurniedig rhyfeddol, ac yn beth prin iawn yng Ngorllewin Cymru. Fe’i hadeiladwyd tua diwedd y 1820au i Morgan Jones yr Ieuengaf (1787-1840) a etifeddodd ystâd Cilwendeg pan fu farw ei ewythr.
Mae Tŷ Cregyn Cilwendeg ac Eglwys Capel Colman ill dau ar agor i’r cyhoedd.
Bwyd a diod
Yng Nghrymych mae tafarn a chlwb rygbi sydd ar agor i ymwelwyr, yn ogystal â chaffi a thecawe. Mae archfarchnad fechan yn y pentref.
Mae siop fechan a thafarn sy’n gweini prydau ym Moncath a rhagor o dafarnau yng Nghapel Newydd (1 ½ milltir) ac Abercych (4 milltir).
Llety
Prin yw’r llety ym Moncath a Chrymych. Mae ychydig o leoedd gwely a brecwast a thai llety yn y pentrefi cyfagos, ond mae’r gwestai agosaf yn Llechryd ac Aberteifi. Nid oes gwersylloedd na meysydd carafanau teithiol yn agos iawn ond mae cryn dipyn o fythynnod hunanarlwyo da yn y pentrefi cyfagos. Chwilio am llety