Clunderwen

Pentref mawr a sefydlwyd pan ddaeth y rheilffordd yn yr 1850au. Mae’r pentref ar yr A478 bron i hanner ffordd rhwng Dinbych-y-pysgod ac Aberteifi, sy’n ei wneud yn lle gwych i grwydro arfordiroedd de a gogledd Sir Benfro oddi yno.

Mae gorsaf drenau yng Nghlunderwen ac mae gwasanaeth bws Sir Benfro, 430, yn cysylltu’r pentref yn dda ag Arberth ac Aberteifi.

Cyn i’r rheilffordd gyrraedd ym 1851, doedd dim tai o gwbl lle mae canol y pentref erbyn hyn ond, erbyn 1861, roedd y pentref, a elwid yn Narberth Road, wedi tyfu o gwmpas yr orsaf. Roedd y rheilffordd yn bwysig iawn ym mywyd y pentref gan y byddai llechi o chwareli lleol, da byw a bwydydd yn cael eu cludo o’r orsaf.

Ym 1913, adeiladodd Howard a Herbert James un o’r awyrennau cyntaf yng Nghymru a’i hedfan ar Fedi 25ain. Dim ond rhyw 60 o droedfeddi uwchlaw’r ddaear gyrhaeddodd yr awyren cyn troi drosodd.

Aethant ati i’w hadeiladu eto ac, ar Dachwedd 22ain, 1913, cawsant fwy o lwyddiant, ond aeth yr awyren i’r clawdd wrth lanio.

Ar Ebrill 20fed, 1914, fe hedfanodd y ddau’n llwyddiannus am y tro cyntaf, dros Arberth a Chaerfyrddin, yn eu hawyren ddwbl o fath Caudron. Pan gyrhaeddon nhw Gaerfyrddin, roeddent wedi colli eu map, a bu’n rhaid iddynt ddilyn y rheilffordd yn ôl i Glunderwen!

Bwriad y brodyr oedd sefydlu ffatri awyrennau yn Arberth, ond yn anffodus daeth y Rhyfel Byd Cyntaf ac ni wireddwyd eu huchelgais.

Atyniadau

Mae Parc Gwledig Llys y Frân a Chastell Llanhuadain gerllaw, a Mynyddoedd y Preseli hefyd.

Bwyd a diod

Mae dwy dafarn, sef yr Iron Duke a’r Angel Inn, a siop dda yng Nghlunderwen.

Llety

Mae ychydig o wersylloedd a meysydd carafanau bychain gerllaw. Hefyd, mae ychydig o leoedd gwely a brecwast a gwestai da yn yr ardal ac yn Arberth gerllaw. Mae cryn dipyn o fythynnod hunanarlwyo da yn y pentrefi o gwmpas, gan gynnwys rhai bythynnod yng Nghlunderwen ei hun.

Chwilio am lety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi