Cilgeti a Begeli

Mae Cilgeti a Begeli yn bentrefi rhwng Arberth a Saundersfoot.

Mae Begeli’n bentref hir ar briffordd yr A478 ac yma mae sw a pharc antur enwog Folly Farm Adventure Park a Zoo

Tyfodd Cilgeti o gwmpas y rheilffordd, gyda’r orsaf yn agor yno ym 1866.

 

Gwasanaethir Cilgeti gan wasanaeth bws lleol, 352 i Ddinbych-y-pysgod a gwasanaeth 381 i Hwlffordd. Mae gorsaf rheilffordd yng Nghilgeti hefyd.

Mae gan Begeli a Chilgeti hanes hir o fwyngloddio; ym 1581, am fod cynifer o weithfeydd ym Megeli ger y briffordd o Ddinbych-y-pysgod i Hwlffordd, ni fentrai unrhyw un basio’r ffordd honno mewn cerbyd na chert rhag ofn i’r ffordd suddo!

Ym 1834, agorwyd y rheilffordd i gludo’r glo o byllau Begeli i lawr i Saundersfoot.

Atyniadau

Yn y dyddiau cynnar, parc fferm digon di-nod oedd Folly Farm, ond mae wedi tyfu cryn dipyn ers hynny. Erbyn hyn, mae’r safle, sydd wedi ennill gwobrau lu, yn cynnwys parc antur i blant, sw, ffair hen ffasiwn a lleoedd chwarae antur dan do ac awyr agored, yn ogystal â’r atyniadau fferm.

Bwyd a diod

Mae nifer o dafarndai, caffi, bwyty a dau le tecawe yn ogystal â siop losin yng Nghilgeti!

Llety

Mae ambell i dŷ llety a gwely a brecwast yng Nghilgeti a Begeli a hefyd mewn pentrefi cyfagos, ond mae’r rhan fwyaf o’r llety’n nes at yr arfordir. Mae nifer o safleoedd gwersylla a meysydd carafanau teithiol gerllaw a nifer o barciau gwyliau lle gallwch logi carafanau statig hunanarlwyo yn Amroth, Wiseman’s Bridge a Saundersfoot.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi