Cenarth

Mae Cenarth yn bentref hynod o ddiddorol ar y ffin rhwng Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gâr. Canolbwynt y pentref yw’r gyfres o raeadrau bychain a phyllau ar afon Teifi, lle daw pobl i weld eogiaid yn neidio.

Mae Melin yng Nghenarth ers y 13eg ganrif o leiaf pan ddaeth Melin Cenarth i feddiant Edward I ac yntau’n Arglwydd y Faenor yno.

Atyniadau

Yr afon, sy’n enwog am ei rhaeadrau ac eogiaid yn neidio, yw calon y pentref ac mae’n dipyn o ryfeddod pan fydd wedi torri dros ei glannau.

Uwchben y rhaeadrau, ceir melin flawd o’r 13eg ganrif ac amgueddfa gwryglau. Gwneir y cwryglau’n draddodiadol o stribedi neu lathenni o helyg neu onn sy’n cael eu gorchuddio wedyn â chalico neu gynfas wedi’u mwydo â thar neu bitsh neu, yn y blynyddoedd diwethaf, baent bitwmen.

Mae cwryglau’n pwyso rhwng 25 a 40 pwys a gellir eu cario ar ysgwyddau’r cwryglwr. Byddai pysgotwyr yn aml yn cerdded pum neu ddeng milltir i fyny’r afon cyn drifftio’n ôl i lawr gyda’r cerrynt.

Bwyd a diod

Mae dwy dafarn yng Nghenarth, sef y Tair Pedol a’r Hydd Gwyn. Mae ystafell de’n gwerthu te hufen a phrydau traddodiadol, ac mae gardd fawr yno ar gyfer diwrnodau braf.

Llety

Mae digonedd o wersylloedd a meysydd carafanau bychain ac un parc gwyliau mwy o faint yng Nghenarth ei hun. Mae gwestai a lleoedd gwely a brecwast o safon yn yr ardal ac yn Aberteifi gerllaw. Ceir digonedd o fythynnod hunanarlwyo yn y rhan fwyaf o’r pentrefi gerllaw ac yng Nghenarth ei hun. Chwilio am lety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi