Caeriw
Mae Caeriw ar lannau afon Caeriw, bedair milltir i’r dwyrain o dref Penfro. Prif nodwedd y pentref bychan hwn yw’r castell o’r 13eg ganrif sy’n sefyll yn falch uwchlaw pwll y felin.
Mae gwasanaethau bws Sir Benfro, 360 a 361, yn cysylltu Caeriw â Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod, lle mae gorsafoedd rheilffordd hefyd.
Mae hanes Caeriw yn mynd yn ôl cyn belled â’r Oes Efydd ond tyfodd y pentref o ddifrif yn y 13eg ganrif, er mwyn gwasanaethu’r castell Normanaidd. Hanes amrywiol sydd i’r castell – perchenogion yn newid, estyniadau, adnewyddiadau, ac ysbryd!
Gweithgareddau
Mae Carew Karting, filltir a hanner o’r pentref, yn cynnig cyffro ac adrenalin.
Atyniadau
Heb os, Castell Caeriw yw un o gestyll gorau Sir Benfro ac, yn hanesyddol, y pwysicaf oll. Roedd wedi’i feddiannu’n barhaus rhwng y 12fed a’r 17eg ganrif ac erbyn hynny roedd wedi’i drawsnewidiwyd yn blasty Elisabethaidd mawreddog gan Syr John Perrot. Gyda’i raglen brysur o basiantau ac ail-greadau yn ystod yr haf, mae’n rhaid ymweld â’r castell hwn.
Mae Croes Caeriw yn gofeb frenhinol i Maredudd ab Edwin, cyd-lywodraethwr teyrnas y Deheubarth (yn ne-orllewin Cymru) a laddwyd ym 1035. Y Groes Geltaidd hardd hon yw un o henebion enwocaf Cymru.
Mae Melin Lanw Caeriw yn felin Ffrengig hynod o ddiddorol, gafodd ei hadfer gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1972. Hon yw’r unig felin lanw gyflawn yng Nghymru ac mae’n werth ymweld â hi.
Dair milltir i’r gorllewin o Gaeriw ar hyd yr A477 mae Castell Upton, lle mae’r tir sydd ar agor i’r cyhoedd yn cynnwys 250 o rywogaethau o goed a llwyni.
Lai na milltir o’r pentref mae Tŵr Rheoli Cheriton Caeriw, sef tŵr gwylio unigryw’r Awyrlu Brenhinol o’r Ail Ryfel Byd, awyren Avro Anson o’r 1940au a lloches cyrchoedd awyr, i gyd wedi’u hailwampio drwy lafur cariad y gymuned yn gofeb fyw i’r rhai a wasanaethodd yng Nghaeriw.
Bwyd a diod
Mae croeso cynnes iawn yn nhafarn y Carew Inn yng Nghaeriw.
Llety
Mae digonedd o wersylloedd a meysydd carafanau bychain ac ychydig o barciau gwyliau mawr gerllaw. Mae rhai gwestai a thai gwely a brecwast da yn yr ardal ac yn St Florence gerllaw. Mae digonedd o fythynnod hunanarlwyo gwledig yn y pentrefi cyfagos i gyd.