Burton, Llangwm a Hook
Mae Burton yn bentref bychan ger Afon Cleddau sydd â phontŵn yn yr haf a thafarn boblogaidd gyda gardd gwrw ar lan yr afon.
Mae Llangwm yn hen bentref pysgota hyfryd wedi’i adeiladu o gwmpas cilfach yn bellach i fyny’r afon o Burton.
Mae pentref Hook 1½ milltir i’r gogledd o Langwm.
Mae Burton, Llangwm a Hook i gyd ar lwybr gwasanaeth bws Sir Benfro, 308, sy’n eu cysylltu â gorsaf fysiau Hwlffwrdd.
Hyd 1982, roedd yr HMS Warrior wedi’i hangori yn yr afon gyferbyn â Burton. Câi ei defnyddio fel pontŵn ar gyfer depo tanwydd y llynges a arferai fod ar y lan gyferbyn. Aethpwyd â hi o Burton i Hartlepool er mwyn ei hadnewyddu a’i hadfer i sut y byddai wedi edrych pan oedd yn un o brif longau’r Llynges. Mae’n awr yn harbwr Portsmouth. Mae lluniau o’r Warrior yn nhafarn y Jolly Sailor.
Sefydlwyd Llangwm gan y Normaniaid wedi iddynt oresgyn de Sir Benfro. Daethont â mewnfudwyr digartref o Fflandrys a’u rhoi i fyw rhyngddyn nhw a’r Cymry yn y gogledd!
Yn ôl yr hanes, roedd Llychlynwyr a dreuliau’r gaeaf ar ddyfrffordd Aberdaugleddau wedi ymgartrefu yma cyn hynny.
Roedd y diwydiant glo yn brysur yn Hook ar un adeg gan fod dwsinau o byllau glo bychain yn cloddio am lo caled. Caeodd y pwll glo olaf ym 1959 a does fawr ddim ohonynt ar ôl.
Gweithgareddau
Llangwm – Mae’r lanfa yn Black Tar yn rhoi mynediad i’r afon i ddefnyddwyr cychod bach, sut bynnag y bo’r llanw.
Hook – Mae maes parcio bychan yn Little Milford Woods, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ym mhen gogleddol y pentref. Mae’r goedwig hon yn gorchuddio llethrau uchel Afon Cleddau Wen sy’n troelli o gwmpas y pentref. Os am daith gerdded ddidddorol, ewch lawr i waelod Pill Road a dilyn hen ffordd y glöwyr draw i Lower Quay Road
Bwyd a diod
Burton – Mae gan y Jolly Sailor yn Burton Ferry, sydd mewn llecyn perffaith ar lan y dŵr, fwydlen helaeth amser cinio a chyda’r hwyr. Ar ben y bryn mae’r Stable Inn, sydd â bwydlen amrywiol.
Llangwm – Mae tafarn y Cottage Inn yn gwneud bwyd ac mae siop bentref fechan yn Llangwm
Hook – Mae siop bentref fechan yn Hook
Llety
Mae ychydig o wersylloedd a meysydd carafanau gerllaw. Mae un neu ddau o leoedd gwely a brecwast a gwestai yn yr ardal ac yn Hwlffordd. Mae rhai bythynnod hunanarlwyo a cabanau gwyliau ar gael hefyd, yn enwedig yn Burton. Chwilio am lety