Bosherston

Pentref bychan iawn, dim ond 5 milltir o Benfro yw Bosherston, ond dyma ganolbwynt bywyd dringo Sir Benfro.

Drwy’r pentref, gallwch gyrraedd Llynnoedd Bosherston yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sef tri dyffryn calchfaen wedi’u boddi, sydd wedi’u gorchuddio â lilis ym mis Mehefin ac yn llawn bywyd gwyllt, ynghyd â thraethau euraidd Traeth De Aberllydan a’i Church Rock eiconig.

Mae Bosherston ar lwybr y Gwibfws yr Arfordir, gwasanaeth rhif 388, sy’n cysylltu pentrefi penrhyn Castell Martin â Phenfro, sydd hefyd â gorsaf rheilffordd.

Mae’r pentref wedi’i adeiladu o gwmpas yr eglwys leol sydd wedi ei chysegru i Sant Mihangel a’r Holl Angylion. Cafodd ei hadeiladu ar ddiwedd y 1200au ar sylfeini man addoli cynharach.

Heblaw am ffermwyr, gweithwyr amaethyddol a gwylwyr y glannau, ym 1851 roedd y pentrefwyr yn cynnwys chwarelwyr, athrawes, clerigwr, gwas, saer coed a golchyddes.  Pentref eithaf hunangynhaliol felly!

Ym 1938, prynwyd bron i chwarter o’r plwyf, i’r gorllewin, er mwyn creu rhan o ystâd saethu’r Corfflu Arfog Brenhinol ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn a phrynwyd rhagor o dir i’r de o’r pentref ym 1940. Y tir yma yw maes tanio Castell Martin heddiw.

Gweithgareddau

Mae’r clogwyni calchfaen o gwmpas Bosherston yn gwneud y pentref bychan hwn yn gyrchfan ar gyfer dringwyr ac mae hyd at fil o lwybrau dringo anodd yno, gan gynnwys rhai o’r llwybrau mwyaf anodd yn y DU. Mae llwybrau haws yma hefyd, ond lleoedd fel Huntsman’s Leap ger Capel Sant Gofan sydd wir yn diffinio Sir Benfro fel man ardderchog i ddringwyr.

Atyniadau

Mae Llynnoedd Bosherston yn adnabyddus am eu lleoliad hardd. Maent mewn cyfres o ddyffrynnoedd calchfaen, sydd wediu boddi, a oedd ar un adeg yn erddi hardd Stackpole Court, cartref cefn gwledig crand Teulu’r Cawdor.  

O’r maes parcio bychan ger yr eglwys yn Bosherston, mae llwybr yn arwain at y llyn cyntaf ac mae sarn hudolus yn mynd â chi draw i’r ochr bellafWedyn aiff y llwybr o gwmpas y llyn, dros sarn arall a phont cyn dod â chi, yn annisgwyl, i draeth anhygoel De Aber Llydan 

 Mae capel Sant Gofan yn lle rhyfeddol arall i ymweld ag ef. Ac yntau wedii wasgu mewn hafn yn y clogwyni, dyma un o’r capeli meudwy o’r chweched ganrif harddaf ym Mhrydain. Cafodd ei enwi ar ôl y meudwy a’r sant oedd yn byw yno 

Bwyd a diod

Mae tafarn y St Govan’s Country Inn yn Bosherston.

Mae Ye Olde Worlde Cafe wedi bod yn gwneud te ar ei lawnt ffrynt ers y 1920’s. Mae’n rhaid i chi fynd yno pan fyddwch yn Sir Benfro.

Llety

Mae nifer o wersylloedd a safleoedd carafanau teithiol bychain yn Bosherston neu yn Sant Pedrog gerllaw. Mae nifer o leoedd gwely a brecwast o safon yn yr ardal a gwestai ym Mhenfro. Mae bythynnod hunanarlwyo ar hyd a lled penrhyn Castell Martin, gan gynnwys rhai bythynnod yn Bosherston ei hun. Chwilio am lety.