Angle

Mae pentref hyfryd Angle mewn dyffryn cysgodol rhwng Bae Dwyrain Angle ar Ddyfrffordd y Ddau Gleddau a bae tywodlyd Gorllewin Angle wrth geg y Ddyfrffordd.

Dynodwyd Angle yn ardal gadwraeth gan Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ym 1995.

Mae Angle ar lwybr Gwibfws yr Arfordir, gwasanaeth bws yr arfordir, rhif 387, sy’n cysylltu pentrefi penrhyn Castell Martin â Phenfro sydd hefyd â gorsaf rheilffordd.

Ffermio a physgota oedd y ddwy swydd bwysig yn Angle yn y gorffennol. Mae gan Angle gysylltiad hir a balch â’r môr ac mae’r orsaf bad achub yn brawf o hyn. Bu swyddi eraill fel melino gydag ynni gwynt yn digwydd yno ers o leiaf 1298. Cafodd melin wynt a gofnodwyd yn niwedd y cyfnod Tuduraidd ei hail-adeiladu yn y 18fed ganrif a’i haddasu er mwyn ei defnyddio fel tŵr saethu yn ystod yr ail ryfel byd!

Mae nifer o adeiladau o’r oesoedd canol wedi goroesi yn y pentref ac mae’r Tower House yn adeilad caerog canoloesol hardd.  Gellir gweld simnai hen waith brics Angle, a sefydlwyd yn yr 1880au, yng Ngorllewin Angle.

Gweithgareddau

Mae Bae Dwyrain Angle yn boblogaidd iawn gydag adarwyr a pherchnogion cychod ac mae’r pentref ar Lwybr Arfordir Sir Benfro.

Mae Bae Gorllewin Angle yn boblogaidd ar gyfer archwilio pyllau glan môr a chaiacio.

Mae llwybr cylchol byr sy’n cynnwys rhan o Lwybr yr Arfordir yn dechrau ym Mae Gorllewin Angle, gan fynd i’r gogledd ar lwybr yr arfordir, ar hyd traethau’r Ddau Gleddau a heibio Ynys Thorn, Caer Chapel Bay, gorsaf y bad achub a Point House, cyn dychwelyd drwy’r pentref.

Atyniadau

Mae Caer ac Amgueddfa Chapel Bay yn gaer filwrol ychydig y tu allan i bentref Angle, sy’n dyddio nôl i 1891. Mae’r amgueddfa’n cynnwys arddangosfeydd o ganonau ac arfau ar hyd yr oesoedd.

Ar dir eglwys y Santes Fair mae Capel y Morwyr a adeiladwyd yn y 15fed ganrif, a oedd yn wreiddiol yn fan i dderbyn cyrff morwyr oedd wedi boddi.

Ar Fferm y Castell mae tŵr caerog sy’n dyddio nôl i’r 14eg ganrif. Dyma’r olaf o’i fath yng Nghymru.

Bwyd a diod

Mae pysgotwyr wedi mynychu’r Old Point House Inn ers canrifoedd. Mae’r dafarn, sydd wedi’i hadeiladu’n rhannol o breniau llongau, mor agos i’r môr fel ei bod yn gallu cael ei hynysu gan lanw mawr.

Mae’r Hibernian Inn ar y ffordd drwy’r pentref ac mae caffi’r Wavecrest ym mae Gorllewin Angle ar agor ar gyfer cinio a chacennau ac mae ganddynt wasanaeth tecawe sy’n berffaith ar gyfer y traeth.

Llety

Mae gwersylloedd a safleoedd carafanau gerllaw. Mae rhai lleoedd gwely a brecwast a gwestai yn yr ardal ac ym Mhenfro. Mae bythynnod hunanarlwyo ledled penrhyn Castell Martin, sy’n cynnwys rhai o’r bythynnod yn Angle ei hun. Chwilio am lety.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi