Aberllydan

Mae Aberllydan yn lle delfrydol ar gyfer gwyliau glan y môr traddodiadol, gyda thraeth tywodlyd anferth (pan fydd y llanw’n isel) a lle diogel i nofio.

Mae’n lleoliad da ar gyfer crwydro’r ardal gan ei fod yn agos i Dyddewi ac arfordir Gogledd Sir Benfro yn ogystal â Hwlffordd ac Aberdaugleddau yn y de.

Mae Aberllydan ar lwybr gwasanaeth y Pâl Gwibio, rhif 400, sy’n cysylltu holl arfordir bae Sain Ffraid o Dyddewi i Martins Haven

Nid ydym yn gwybod fawr iawn am darddiad y pentref ond y mae’n adnabyddus fel pentref glan y môr ers yr 1800au. Roedd bad achub RNLI yn Aber Bach o 1882 hyd 1921. Ym 1967, ail-agorwyd yr orsaf a newidiwyd ei henw i orsaf i Aber Bach ac Aberllydan.

Gweithgareddau

Mae traeth Aberllydan yn baradwys i blant ac yn un o’r traethau gorau yn Sir Benfro. Dan y clogwyni, mae nifer o byllau glan môr ac ym mhen gogleddol y traeth mae’r Lions Head creigiog. Mae gan Haven Sports siop dda ar gyfer chwaraeon dŵr yn agos at lan y môr, ac mae modd llogi byrddau syrffio, byrddau padlo, siwtiau gwlyb a chaiacau.

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn eithaf hamddenol heb ormod o elltydd i’r ddau gyfeiriad. I’r de, gallwch gerdded i St Brides Haven trwy Aber Bach neu tua’r gogledd, mae Niwgwl, heibio Druidston Haven a Nolton Haven yn lefydd da i ymweld â nhw.

Pan fydd y llanw’n isel, gallwch gerdded ar hyd y traeth o Aberllydan i Aber Bach, heibio bae o’r enw’r Settlands.

Bwyd a diod

Mae gan Aberllydan siop bentref dda a thafarn, y Galleon Inn.  Mae Caffi, Bar a bwyty’r Ocean ar lan y môr.

Llety

Mae digon o wersylloedd a meysydd carafanau bychain gerllaw. Mae lleoedd gwely a brecwast a ffermdai o safon ar gyfer ymwelwyr yn y cyffiniau ac yn Aber Bach.

Mae bythynnod hunanarlwyo ar hyd a lled Bae Sain Ffraid, gan gynnwys rhai bythynnod yn Aberllydan ei hun.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi