Aberdaugleddau
Datblygoedd Aberdaugleddau fel tref hela morfilod yn niwedd yr 17eg ganrif, ac yn sgil ei safle ar lan yr aber fwyaf yng Nghymru, a’r ffaith ei fod yn un o’r harbwrs naturiol dyfnaf yn y byd, mae hanes y dref yn gysylltiedig iawn â’r môr. Mae iardiau llongau llynges, llongau mordeithio a fflyd o gychod pysgota yn britho hanes y dref.
Mae gorsaf reilffordd yn Aberdaugleddau a gwasanaeth bws da, bws arfordirol 315, yn cysylltu’r dref â Hwlffordd a hefyd allan i Dale.
Gellir olrhain hanes Aberdaugleddau yn ôl i gyfnod y Llychlynwyr yn 854 pan aeafodd y pennaeth Hubba ei fflyd o 23 o longau yn yr Aber. Ers hynny, mae Aberdaugleddau wedi cael ei ddefnyddio mewn nifer o ymgyrchoedd; defnyddiodd Richard ll Aberdaugleddau i lansio’i ymosodiadau ar Iwerddon ym 1399 ac felly hefyd Cromwell a’i fyddin ym 1649.
Ym mhentref bychan y Priory gellir gweld gweddillion Priordy Pill. Roedd Priordy Pill yn dŷ Tironaidd a sefydlwyd yn y 12fed ganrif a chredir ei fod yn gangen o Abaty Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro. Fe’i sefydlwyd gan Urdd Tironaidd y Mynachod Benedictaidd.
Ni sefydlwyd Aberdaugleddau fel tref tan 1790. Roedd y tir yn eiddo i Syr William Hamilton, ond Charles Francis Greville wnaeth y cais am ddeddf seneddol er mwyn galluogi Syr William a’i etifeddion i greu dociau, adeiladau cei a sefydlu marchnadoedd, adeiladu ffyrdd a rhodfeydd at y porthladd a rheoleiddio’r heddlu.
Adeiladwyd Aberdaugleddau ar system grid ac mae tai Sioraidd hardd yno, yn enwedig ar Hamilton Terrace. Gobeithiwyd y byddai’r porthladd yn dod yn fan ymadael i deithwyr ar draws Môr yr Iwerydd a fyddai’n cyrraedd Aberdaugleddau ar y trên, ond, yn anffodus, ni ddigwyddodd hynny.
Yn y 18fed ganrif, gwnaeth Crynwyr o Nantucket y porthladd yn gartref i’w fflyd o gychod pysgota morfilod ac yn nechrau’r 20fed ganrif roedd yn ganolfan ar gyfer diwydiant pysgota mawr iawn. Ar un adeg, roedd hi’n bosibl cerdded ar draws holl led y dociau ar fyrddau llongau pysgota. Heddiw, mae Aberdaugleddau’n fwy adnabyddus am y purfeydd olew a nwy ar ochr arall y dref.
Mae rhywfaint o swyddogaeth fasnachol i ddociau Aberdaugleddau hyd heddiw, ond mae’r rhan fwyaf o’r dociau wedi eu troi’n farina a phentref marina. Mae llongau pleser sy’n crwydro gorllewin Prydain ac Iwerddon hefyd yn galw yn y porthladd yn rheolaidd.
Gweithgareddau
Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro’n mynd trwy Aberdaugleddau wrth iddo ddilyn glan Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Ymhlith uchafbwyntiau’r ardal mae Bae Lindsway a Sandy Haven.
Mae hwylio’n ddiddordeb poblogaidd yn Aberdaugleddau gan fod y marina a’i holl wasanaethau wedi cymryd lle’r fflyd o gychod pysgota.
Atyniadau
Lle cynt y bu cei masnachol, bellach mae caffis, bwytai a siopau hyfryd ar Lanfa Aberdaugleddau, gyda chanolfan fowlio’r Phoenix Bowl ac ardal chwarae dan do ar ochr orllewinol y marina.
Mae hanes morwrol Aberdaugleddau i’w weld yn yr amgueddfa leol sy’n un o adeiladau hynaf y dref – yr hen adeilad storio olew morfilod a adeiladwyd ym 1797.
Bwyd a diod
Mae caffis, siopau a bwytai ar hyd Glanfa Aberdaugleddau. Mae dewis da o siopau, tafarndai ac archfarchnadoedd yn y dref, uwchben y marina hefyd.
Llety
Mae ambell i westy yn Aberdaugleddau, ar hyd Hamilton Terrace. Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r llety ar gyfer twristiaid ymhellach i’r gorllewin tuag at Dale, Marloes ac Aber Bach ble mae lleoedd gwely a brecwast, tai llety, ffermdai, gwersylloedd, meysydd carafanau teithiol a bythynnod hunanarlwyo.
Mae rhywfaint o lety hunanarlwyo i’w gael yn Smoke House Quay, datblygiad fflatiau ar lan y dŵr ger y marina. Hefyd mae byncws ger Llwybr yr Arfordir yn Herbrandston.