Aber Bach

Mae pentref bach hynod Aber Bach ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, ym mhen deheuol Bae San Ffraid. Mae’n hen bentref pysgota llawn swyn a chymeriad ac wedi’i ddynodi’n ardal gadwraeth gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Aber Bach ar lwybr gwasanaeth bws yr arfordir 400: Y Pâl Gwibio. Mae’n cysylltu’r pentrefi ym Mae Sain Ffraid, rhwng Tyddewi a Marloes.

Sefydlodd yr RNLI orsaf bad achub o’r enw Aber Bach ym 1882. Roedd y bad achub yn cael ei chadw ar y dŵr, mewn man cysgodol dan Goldtrop Head, hyd nes bod cwt cychod a llithrfa newydd yn cael eu hadeiladu ym 1903. Caeodd yr orsaf ym 1921 oherwydd anhawster cael aelodau newydd i’r criw.

Gweithgareddau

Traeth Aber Bach yw canolbwynt y gweithgareddau: ar lanw uchel mae’n gildraeth bychan ond pan fydd y llanw’n isel gallwch gerdded i fae llydan o’r enw’r Settlands ac ymlaen i Aberllydan os yw’r llanw’n ddigon pell.

Atyniadau

Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn mynd trwy ganol y pentref.

Mae’r llwybr i’r Pwynt yn addas ar gyfer coetsis a chadeiriau olwyn ac yn fan da i fwynhau’r golygfeydd. Mae traeth bychan ar ochr ddeheuol y Point o’r enw’r ‘Sheep Wash’. Byddai’n cael  ei ddefnyddio gan ffermwyr lleol 50 mlynedd yn ôl i olchi defaid cyn eu cneifio.

Mae Llwybr yr Arfordir yn dda ar gyfer cerdded i’r ddau gyfeiriad, heb lawer o elltydd. Tua’r de, mae taith gerdded gymedrol yn mynd â chi at gildraeth bach tlws yn St Bride’s Haven.

Os ewch chi i’r gogledd, fe gyrhaeddwch Druidston Haven, ac yna ymlaen i Nolton Haven a Niwgwl. Mae hon yn rhan fwy tawel o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ond mae’n drawiadol serch hynny.

Bwyd a diod

Mae tair tafarn yn Aber Bach, y Saint Brides Inn ger y maes parcio, y Castle ar lan y môr a’r Swan ar y llwybr sy’n arwain at y Point. Mae pob un yn gweini bwyd. Mae caffi bychan a bistro ar lan y môr hefyd.

Llety

Mae nifer o leoedd gwely a brecwast a ffermdai yn Aber Bach ac Aberllydan gerllaw, ond mae’r gwestai agosaf yn Aberdaugleddau neu Hwlffordd. Mae nifer o wersylloedd, meysydd carafanau teithiol a nifer o barciau gwyliau gerllaw ble gallwch rentu carafanau neu gabanau hunanarlwyo. Mae nifer o fythynnod hunanarlwyo yn Aber Bach ac yn y pentrefi gerllaw. Ar gyfer cerddwyr llwybr yr arfordir, mae hostel ieuenctid yn Aberllydan.

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi