Traeth y Priordy
Traeth perffaith ar Ynys Bŷr, oddi ar draeth y de, Dinbych-y-pysgod.
Mae’r ynys yn gartref i fynachod Urdd y Sistersiaid. Gallwch gyrraedd yr ynys ar gwch naill o Harbwr Dinbych-y-pysgod neu o draeth y Castell, yn dibynnu ar y llanw.
Mae’r cychod yn mynd rhwng y Pasg a diwedd mis Hydref, o ddydd Llun i ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn ystod misoedd Mehefin, Gorffennaf ac Awst. Mae’r ynys ar gau ar ddydd Sul.
Mae’n draeth ardderchog ar gyfer teuluoedd gan fod digon o le i redeg o gwmpas heb amharu dim ar neb arall ar y traeth ac yn lle perffaith i gael picnic.
Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019
Parcio
Na.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Caffi a thoiledau ar yr ynys ynghyd â swyddfa bost a siop Ynys Bŷr. Mae ambell lety hunanarlwyo ar yr ynys.