Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod

Traeth tywodlyd, cysgodol, hyfryd gyda chopa craig Goskar yn ymwthio drwy’r tywod yn ei ganol.

Dyma un o’r golygfeydd, gyda’r harbwr ar yr ochr orllewinol, y tynnir ei llun amlaf yng Nghymru. Mae’r traeth cysgodol hwn, sy’n wynebu’r dwyrain, yn dal yr haul hyd yn oed ar ddyddiau gwyntog.

Ceir gwaharddiad ar gŵn ar yr holl draeth i’r gorllewin o Ynys Catrin o Fai 1af hyd Fedi 30ain. Edrychwch ar fap o’r traeth er mwyn gweld i ba ran o’r traeth y mae hyn yn berthnasol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Traeth Baner Las 2019

Parcio

Maes parcio Traeth y Gogledd yw’r agosaf ond mae’n llenwi’n gyflym yn yr haf. Os fyddwch yn cyrraedd ar ôl 10yb yn ystod gwyliau’r ysgol, ewch yn syth i’r maes Parcio a Theithio a defnyddiwch y bws gwennol rhad ac am ddim.

Cyfleusterau

Llithrfa. Llogi cychod. Cadeiriau plygu. Gwyliwr y glannau o ddiwedd mis Mehefin hyd ar ddiwedd mis Medi.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau, canolfan groeso, amgueddfeydd ac orielau. Nifer o gaffis, tafarndai a bwytai. Nifer o siopau diddorol a dewis da o westai, meysydd carafanau, gwely a brecwast a hunanarlwyo.

  • Nofio
  • Caffi
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Cyfyngiadau ar gŵn
  • Cymroth Cyntaf
  • Gwyliwr y Glannau
  • Ffôn
  • Cychod Modur
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Llithrfa neu Fan Lansio
  • Toiledau (tymhorol)
  • Sgïo Dŵr