Traeth Wiseman’s Bridge
Mae Wiseman’s Bridge yn draeth llydan ond creigiog gyda llethr o gerrig mân y tu ôl iddo. Mae angen gofal wrth gyrraedd y môr pan fydd y llanw’n isel gan fod yn rhaid i chi ddringo dros y creigiau.
Mae nant yn llifo ac yn lledu ar draws y traeth ar yr ochr orllewinol a gall fod yn anodd ei chroesi.
Mae’n bosibl cerdded yr holl ffordd i Amroth neu Saundersfoot ar hyd y traeth pan fydd y llanw’n isel iawn.
Mae llwybr yr arfordir yn dilyn yr hen dramffordd i Saundersfoot ar hyd wal fôr uchel a thrwy dwneli ardderchog. Edrychwch am fynedfa i hen lofa ar y ffordd.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Ychydig o leoedd parcio ar ochr y ffordd.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiled a thafarn sydd â bwyty mewn tŷ gwydr ar ochr y traeth.
- Nofio
- Maes Parcio Rhad ac am Ddim
- Ffôn
- Creigiog
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Toiledau