Traeth St Brides Haven

Traeth St Brides Haven

Traeth St Brides Haven

Traeth creigiog a thywodlyd cysgodol, sy’n boblogaidd gyda deifwyr.

Mae digon o byllau glan môr i gadw anturiaethwyr ifanc yn hapus am oriau.

Mae eglwys ddiddorol ger y traeth ond prif atyniad y bae yw Castell Sain Ffraid, cartref barwnol o’r 19fed ganrif. Bellach mae’n ganolfan hunanarlwyo.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Glan Môr (Gwledig) 2018

Parcio

Pacio ar gyfer 20 car yn unig.

Cyfleusterau

Toiledau.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Marloes lle mae tafarn, bwyty a chaffi/bar. Mae rhywfaint o lety gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â gwersylloedd yn yr ardal.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Maes Parcio
  • Ffôn
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Nant
  • Gweithgareddau Tanddwr
  • Toiledau