Traeth Sandy Haven
Traeth creigiog gyda chlogwyni, ond daw traeth mawr tywodlyd i’r golwg ar lanw isel. Mae digon o byllau glan môr i gadw unrhyw anturiaethwr ifanc yn hapus am oriau.
Ar lanw isel, mae man croesi gwastad newydd wedi’i osod yn lle’r hen gerrig camu. Mae’r man croesi newydd bellach ar gael rhwng 3 awr ar ôl llanw uchel a thair awr cyn llanw uchel. Ar adegau eraill, mae’n rhaid i gerddwyr gerdded ar hyd y llwybr llanw uchel sy’n 4 milltir o hyd ac sy’n dilyn ffyrdd yn bennaf.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Mae maes parcio gyda 30 o leoedd uwchlaw’r traeth ac mae’n rhad ac am ddim!
Cyfleusterau
Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae gwersyll bach yn union uwchben y traeth ond dim cyfleusterau eraill; mae angen i chi ddod â phopeth gyda chi.
- Nofio
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Canŵio
- Clogwyni
- Maes Parcio Rhad ac am Ddim
- Creigio
- Hwylio
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Slipway or Launching
- Llithrfa neu Fan Lansio