Traeth Porthselau

Bae bach tywodlyd hyfryd. Mae goleddf graddol i’r môr felly dylai fod yn ddigon diogel ar gyfer nofio, er ei fod yn greigiog mewn mannau.

Mae’n bosibl i chi gerdded yma o draeth Porth Mawr ar lanw isel, ond mae’n well cyrraedd yma ar hyd Llwybr yr Arfordir.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Dim. Gallwch gyrraedd yno oddi ar Lwybr yr Arfordir o Borth Mawr.

Cyfleusterau

Dim

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae gwersyll Pencarnan yn union y tu ôl i’r traeth ond mae’r cyfleusterau ar gyfer preswylwyr yn unig. Mae’r bwyd a diod agosaf ar draeth Porth Mawr.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Canŵio
  • Clogwyni
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd