Traeth Porthlysgi

Dim ond oddi ar Lwybr yr Arfordir tua milltir i’r gorllewin o Borthclais y gallwch chi gyrraedd y traeth diarffordd hwn.

Ar lawn uchel mae’r cildraeth creigiog yn raeanog, ond pan fydd y llanw allan daw tywod euraid a digon o byllau glan môr i’r golwg. Mae’r dŵr clir yn berffaith ar gyfer nofio.

Yn ôl y chwedl, cafodd y cildraeth ei enwi ar ôl ysbeiliwr o Iwerddon a laniodd yn y cildraeth a lladd y pennaeth Celtaidd lleol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Rhad ac am ddim ym Mhorthclais

Cyfleusterau

Dim

Cyfleusterau ar yr arfordir

Dim

  • Traeth Cerrig Mân
  • Pyllau Glan Môr
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi