Traeth Penalun
Ym mhen pellaf traeth y de, Dinbych-y-pysgod mae Traeth Penalun.
Mae’n fwy o estyniad o Draeth y De na bae ar wahan, ond mae ganddo gymeriad hollol wahanol.
Does dim llawer yn ymweld â’r rhan hon o’r traeth.
Traeth o dywod a graean, gyda thwyni tywod y tu ôl iddo, sy’n cael ei gysgodi rhag y gwynt gan Drwyn Giltar.
I gyrraedd yno, cerddwch ar draws y twyni o orsaf Penalun, er bod y llwybr hwn ar gau o dro i dro gan ei fod yn croesi maes tanio.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobrau
Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019 a Gwobr Glan Môr 2019
Beth sydd yn nhraeth Penalun?
Parcio
Mae’r lleoedd parcio agosaf yng ngorsaf Penalun ar yr A4139, ffordd Penfro.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r cyfleusterau agosaf yn Ninbych-y-pysgod. Mae gwesty a nifer o sefydliadau hunanarlwyo ym Mhenalun.
Nodweddion
- Nofio
- Maes Parcio
- Toiledau Anabl
- Gwobr Arfordir Gwyrdd
- Ffôn
- Twyni Tywod
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Toiled