Traeth Parrog, Trefdraeth
Darn hyfryd o arfordir. Mae Llwybr yr Arfordir yn ymdroelli o gwmpas hen orsaf y bad achub, weithiau ar y traeth, weithiau ar y ffordd ac, mewn un man mae’n croesi sarn ryfeddol wedi’i hadeiladu o lechi mewn patrwm saethben.
Mae’n bosibl croesi’r afon ger y clwb hwylio i Draeth Trefdraeth. Mae’r ‘ffordd hir’ yn ôl yn mynd â chi ar hyd yr aber at y bont.
Gerllaw mae siambr gladdu Carreg Coetan.
Mae ambell i draeth o gerrig mân ond ni fyddem yn argymhell eich bod yn nofio yma.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae ychydig o leoedd parcio ger y clwb hwylio.
Cyfleusterau
Llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Toiledau a chaffi ger y clwb hwylio.
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Canŵio
- Maes Parcio
- Aber
- Angori
- Ffôn
- Cychod Modur
- Creigiog
- Hwylio
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Rhwyfo Môr
- Llithrfa neu Fan Lansio
- Toiledau
- Hwylfyrddio