Traeth Musselwick

Traeth tywod hardd sydd i’w weld pan fydd y llanw’n isel yn unig. Dim ond o lwybr yr arfordir neu wrth gerdded am 10 munud ar hyd llwybr ar draws caeau y mae modd ei gyrraedd.

Mae’r traeth yma’n teimlo’n ddiarffordd iawn felly. Mae dau fwrdd ym mhen uchaf y traeth sydd â golygfeydd hyfryd ac sy’n lle perffaith i gael picnic.

I gyrraedd y traeth rhaid mynd lawr grisiau sydd wedi eu cerfio o’r graig ac felly efallai na fydd yn addas ar gyfer plant ifanc neu’r rhai hynny sy’n simsan ar eu traed.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Ychydig o leoedd parcio hanner milltir i’r gorllewin o bentref Marloes (dim ond 3 neu 4 o geir).

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Marloes ble mae tafarn, bwyty a chaffi/bar. Mae dewis da hefyd o wely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â meysydd gwersylla.

  • Nofio
  • Canŵio
  • Aber
  • Ffôn
  • Cychod Modur
  • Creigiog
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Hwylfyrddio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi