Traeth Monkstone

Er bod traeth Monkstone rhwng Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod, mae’n teimlo’n wyllt ac anghysbell iawn.

Mae mynediad i’r traeth ar hyd llwybr trwy Fferm Trevayne ac mae ychydig o leoedd parcio ar y ffordd gul. Mae’r llwybr i lawr i’r traeth yn serth ond mae mewn cyflwr da ac mae grisiau wrth i chi gyrraedd y traeth.

Gallwch, wrth gwrs, gerdded ar hyd llwybr yr arfordir o Saundersfoot, neu gerdded ar hyd y traeth pan fydd y llanw ar ei isaf. Byddwch yn ofalus o gyllyll môr yn tasgu dŵr!

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Meysydd parcio yn Saundersfoot.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Dim.

  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr