Traeth Mawr Trefdraeth
Traeth llydan, hir wrth aber Afon Nyfer.
Mae’r traeth tywodlyd hwn, gyda’i dwyni tywod, yn ddigon mawr ar gyfer eich gweithgareddau i gyd, ac ar lanw isel, gallwch groesi’r afon i draeth Parrog, Trefdraeth,
Mae’n boblogaidd gyda rhai sy’n mwynhau bob math o chwaraeon dŵr.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Ar ben y traeth neu ar draeth Parrog, Trefdraeth (mae’r maes parcio hwn yn brysur iawn yn ystod misoedd yr haf).
Cyfleusterau
Llithrfa. Mae gwylwyr y glannau yma rhwng diwedd mis Mehefin a dechrau mis Medi.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Caffi a thoiledau. Mae gan Drefdraeth holl gyfleusterau pentref mawr, gan gynnwys orielau, llogi beiciau, clwb golff a Chanolfan Groeso’r Parc Cenedlaethol. Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, tai ymwelwyr, meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal. Cafodd y cwrs golff sy’n cefnu ar y traeth ei ymestyn i 18 twll yn 2008 ac adeiladwyd bwyty a gwesty ardderchog.
- Nofio
- Caffi
- Canŵio
- Maes Parcio
- Cymorth Cyntaf
- Gwyliwr y Glannau
- Ffôn
- Hwylio
- Twyni Tywod
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Rhwyfo Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Llithrfa neu Fan Lansio
- Gweithgareddau Tanddwr
- Toiledau
- Hwylfyrddio