Traeth Marloes
Traeth tywodlyd anferth ar lanw isel, gyda chreigiau a ffurfiannau clogwyni diddorol. Mae pyllau glan môr ym mhen gorllewinol y traeth.
Ar lanw uchel, gall y traeth ddiflannu’n llwyr, ond ar lanw isel, mae digon i’w archwilio. Mae strata’r graig wedi rhannu’r traeth yn nifer o ‘faeau’ bychain sydd hyd yn oed yn fwy preifat.
Dringwch dros y creigiau yn y pen gorllewinol er mwyn dod o hyd i draeth Albion, traeth bach tywodlyd, perffaith. Pan fydd y llanw’n isel, gallwch weld yr hyn sy’n weddill o long a ddrylliwyd ar y traeth – y propsiafft.
Saethwyd golygfeydd o’r ffilm Hollywood “Snow White and the Huntsman”, gyda Charlize Theron a Kristen Stewart, yma ym mis Medi 2011! Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019 a Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ½ milltir o’r traeth.
Cyfleusterau
Dim.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r cyfleusterau agosaf ym mhentref Marloes sydd â thafarn, bwyty a chaffi/bar. Mae hefyd dewis o leoedd gwely a brecwast a llety hunanarlwyo yn ogystal â gwersylloedd. Mae fan hufen iâ yn y maes parcio.
- Nofio
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Maes Parcio
- Clogwyni
- Gwobr Arfordir Gwyrdd
- Ffôn
- Creigiog
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Toiledau