Traeth Llyfn

Mae Traeth Llyfn yn draeth tywodlyd a chreigiog tlws rhwng Porthgain ac Abereiddi.

Mae grisiau metel serth iawn i lawr at y traeth, sydd â chlogwyni uchel y tu ôl iddo, ond, wedi i chi gyrraedd, mae digon o le i chwarae pêl a hedfan barcud; mae pyllau glan môr i’w harchwilio hefyd.

Gan fod y traeth hwn mor anghysbell, mae’n siŵr mai dim ond chi fydd yno.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Parcio

Mae’r parcio agosaf yn Abereiddi neu Borthgain.

Cyfleusterau

Dim.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf ym Mhorthgain. Mae tafarn sy’n gweini bwyd a bwyty yn ogystal â dwy oriel gelf yma. Toiledau. Mae llety hunanarlwyo i’w gael yn yr ardal.

  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Clogwyni
  • Pyllau Glan Môr
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd