Traeth Gorllewin Dale

Traeth tywodlyd wedi’i amgáu gan glogwyni uchel y gellir ei gyrraedd i lawr grisiau serth iawn yn unig.

Mae’r tonnau’n dda yma, gydag ymchwyddiadau dibynadwy a gwyntoedd o’r gogledd ddwyrain; ond byddwch yn wyliadwrus o geryntau cryf ac annisgwyl, creigiau o dan yr wyneb a thonnau nerthol, sy’n ei wneud yn well ar gyfer syrffwyr mwy profiadol.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019

Parcio

Yn Dale neu mae maes parcio ger hen faes awyr ar y ffordd i oleudy’r Santes Anne.

Cyfleusterau

Dim

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae’r cyfleusterau agosaf yn Dale. Caffi/bwyty a thafarn. Mae canolfan weithgareddau sy’n darparu hyfforddiant mewn chwaraeon dŵr a dewis bychan o wely a gwesty a llety hunanarlwyo.

  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Clogwyni
  • Creigiog
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Syrffio