Traeth Gelliswick

Traeth graeanog bychan i’r gorllewin o Aberdaugleddau. Mae’r ffordd yn troelli i lawr y bryn, ar hyd glan y môr a heibio’r clwb hwylio, felly mae’n hawdd cyrraedd yno.

Ar yr ochr ddwyreiniol mae Hubberston Fort a adeiladwyd yn y 1850au er mwyn amddiffyn yr harbwr rhag y Ffrancwyr; ni chafodd unrhyw un ei saethu oddi yno ond cafodd ei ddefnyddio fel canolfan hyfforddi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Glan Môr 2019

Parcio

Mae digon o leoedd parcio ar hyd y ffordd.

Cyfleusterau

Llithrfa.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Toiledau. Mae’r lleoedd bwyd a diod agosaf ym Marina Aberdaugleddau.

  • Nofio
  • Canŵio
  • Maes Parcio Rhad ac am Ddim
  • Ffôn
  • Cychod Modur
  • Creigiog
  • Hwylio
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Toiledau
  • Hwylfyrddio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi