Traeth Freshwater West
Mae’r traeth tywodlyd a chreigiog hwn yn boblogaidd gyda syrffwyr sy’n chwilio byth a beunydd am donnau da; mae hwn yn baradwys i syrffwyr.
Mae gan y traeth hwn, sy’n wynebu’r de orllewin, y tonnau gorau yn y sir OND dim ond nofwyr a syrffwyr profiadol a chryf ddylai fynd i’r môr yma. Mae ceryntau terfol cryf oddi ar y traeth hwn. Dyma’r lle gorau i wylio pobl yn syrffio.
Mae twyni tywod y tu ôl i’r traeth llydan, tywodlyd hwn. Mae’r twyni’n fregus felly ni chaniateir gwersylla na barbeciws. Mae riff creigiog yn y pen deheuol ac ambell i fae tawel yn y pen arall.
Mae traeth Frainslake i’r de ond mae o fewn maes tanio Castell Martin felly nid oes modd mynd yno. Mae’r cwt to gwellt sydd wedi’i ail-adeiladu ar y blaendraeth yn lloches a fyddai’n cael ei ddefnyddio i sychu math arbennig o wymon a ddefnyddir i wneud bara lawr, sy’n dda am ychwanegu blas i ryseitiau.
Mae Freshwater West wedi bod mewn dwy ffilm ddiweddar – Robin Hood gan Ridley Scott a Harry Potter and the Deathly Hallows lle cafodd ei ddefnyddio fel cefndir i fwthyn cregyn Dobby a adeiladwyd ar y safle gan ychwanegu bob manylyn – hyd yn oed y gwymon. Er i’r bwthyn gael ei ddymchwel ar ôl i’r ffilmio ddod i ben, mae dal modd i chi ddilyn ôl troed Harry, Hermione a Ron.
Yn 2015, dychwelodd Hollywood i’r traeth i ffilmio Their Finest gyda Gemma Arterton a Sam Claflin. Defnyddiwyd hwn fel traeth Dunkirk.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Parcio
Mae dau faes parcio bychan rhad ac am ddim, ond os yw’r tywydd yn dda ar gyfer syrffio mae hi’n anodd dod o hyd i le parcio. Mae’r lle’n llawn faniau campio! Mae rhai lleoedd i barcio ar hyd yr ffordd gul iawn. Peidiwch ag ymweld ar wyliau banc.
Cyfleusterau
Toiledau.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae’r Cafe Môr enwog wedi’i barcio yn y maes parcio deheuol o’r gwanwyn i’r hydref.
- Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
- Canŵio
- Toiledau Anabl
- Maes Parcio Rhad ac am Ddim
- Ffôn
- Creigiog
- Twyni Tywod
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Nant
- Syrffio
- Toiledau
- Hwylfyrddio