Traeth Freshwater East
Bae llydan o dywod euraid gyda thwyni tywod, a nant yn llifo drwy’r traeth yn y pen deheuol.
Ar lanw isel, daw digon o dywod i’r golwg fel bod lle i bawb chwarae gemau pêl heb boeni dim am amharu ar neb arall, ac mae’r clogwyni isel yn y pen dwyreiniol yn golygu bod sawl bae hyfryd a phreifat yma.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019 a Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Gallwch chi barcio ar draws y ffordd.
Cyfleusterau
Llithrfa, toiledau.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Tu ôl i’r traeth mae Parc Carafanau Freshwater Bay sydd â chanolfan gweithgareddau awyr agored a chaffi a bwyty The Longhouse. Mae caffi/bwyty, ynghyd â thafarn a siop ym mhentref Frestwater East.
- Nofio
- Caffi
- Canŵio
- Maes Parcio
- Toiledau Anabl
- Gwobr Arfordir Gwyrdd
- Angori
- Ffôn
- Cychod Modur
- Hwylio
- Twyni Tywod
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Llithrfa neu Fan Lansio
- Nant
- Syrffio
- Toiledau
- Sgïo Dŵr
- Hwylfyrddio