Traeth De Aberllydan

Bae llydan, tywodlyd gyda thwyni tywod sy’n arwain o lynnoedd Bosherston yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Pan fydd y llanw’n isel mae hwn yn draeth anferth o dywod meddal, ac felly mae digon o le i bawb.

Nid yw’r ffordd i’r traeth o’r maes parcio uwchben y traeth ar y pen deheuol yn addas i goetsis na chadeiriau olwyn gan bod nifer o risiau serth i lawr o’r clogwyn.

Mae’n llawer gwell cyrraedd y traeth o’r pen gogleddol drwy’r llynnoedd, lle mae llwybr pren at y tywod. Cofiwch bod ceryntau cryf yn y môr yn Ne Aberllydan.

Crwydrwch y cerrig mawr a’r ‘ynys’ ar yr ochr orllewinol er mwyn darganfod ogofâu a nentydd yn llifo allan o’r clogwyni. Pan fydd y llanw’r isel mae ambell i ogof fechan yn y clogwyni isel, troellog ar yr ochr ddwyreiniol.

Mae’r nant lân sy’n dod o’r llynnoedd yn llifo ar hyd yr ochr yma ac yn berffaith i blant bach chwarae ynddi. Mae craig dda i neidio oddi arni hefyd pan fydd y llanw’n uchel.

Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!

Gwobr Glan Môr (Gwledig) 2019 a Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019

Parcio

Mae digon o le i barcio uchben y traeth ym maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol neu ger yr eglwys ym mhentref Bosherston i’r rhai sydd â chadeiriau olwyn neu goetsis. Mae angen cerdded milltir i’r traeth o’r fan hyn ond byddwch yn cerdded trwy’r llynnoedd lili hardd. Profiad gwerth chweil!

Cyfleusterau

Toiledau yn y maes parcio uwchben y traeth. Fan hufen iâ.

Cyfleusterau ar yr arfordir

Mae caffi, tafarn a siop ym mhentref Bosherston.

  • Nofio
  • Byddwch yn Wyliadwrus o Geryntau
  • Canŵio
  • Maes Parcio
  • Toiledau Anabl
  • Gwobr Arfordir Gwyrdd
  • Ffôn
  • Twyni Tywod
  • Traeth Tywodlyd
  • Pysgota Môr
  • Traeth Gwobr Glan Môr
  • Nant
  • Syrffio

Awgrymiadau eraill

Efallai y byddech hefyd yn hoffi