Traeth Cwm-yr-Eglwys
Bae bychan tywodlyd â nant yn llifo drwyddo. Mae digon o byllau glan môr i chwilotwyr dewr ac mae’n boblogaidd gyda rhai sydd â chychod gan fod clwb cychod yn y pentref.
Uwchben y traeth mae wal hen gapel. Cafodd y gweddill ei olchi oddi yno yn ystod storm anferth 1859 a greodd holl lethrau cerrig mân Sir Benfro. Mae wal 10 troedfedd o uchder yn amgylchynu pen uchaf y traeth, sy’n ei wneud yn gysgodol iawn.
Dilynwch y llithrfa i gyrraedd y traeth. Dringwch dros y creigiau ar ben gorllewinol y traeth er mwyn darganfod traeth llanw isel cudd. Mae bae bychan caregog ar yr ochr ddwyreiniol hefyd.
Os ydych yn bwriadu ymweld, gwiriwch amseroedd y llanw er mwyn gwneud yn siŵr bod gennych ddigon o draeth i chwarae arno ac na fyddwch yn cael eich ynysu pan fydd y llanw’n troi!
Gwobr Glan Môr 2019
Parcio
Yng nghanol y pentref.
Cyfleusterau
Toiledau a llithrfa.
Cyfleusterau ar yr arfordir
Mae tafarn/bwyty/caffi ym Mhwllgwaelod. Mae garej, siop, tafarn a siop sglodion yn Dinas. Mae dewis da o westai, gwely a brecwast, llety ymwelwyr, meysydd carafanau a gwersylla yn yr ardal. Trefdraeth yw’r pentref mwyaf ac mae yno siopau, caffis, bwytai a gallwch logi beiciau.
- Nofio
- Canŵio
- Maes Parcio
- Toiledau Anabl
- Gwobr Arfordir Gwyrdd
- Angori
- Pyllau Glan Môr
- Hwylio
- Traeth Tywodlyd
- Pysgota Môr
- Traeth Gwobr Glan Môr
- Liithrfa neu Fan Lansio
- Nant
- Gweithgareddau Tanddwr
- Toiledau
- Hwylfyrddio